Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi amlinellu ei gyngor er mwyn llywio’r adolygiad o’r cyfyngiadau coronafeirws ar 1 Ebrill, gan argymell bod angen parhau â’r dull gofalus a graddol o godi’r cyfyngiadau.
Rwyf wedi adolygu'r argymhellion i ddiwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 i ganiatáu i bob plentyn ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ac i ailagor yr holl wasanaethau manwerthu a chyswllt agos nad ydynt yn hanfodol ar ôl gwyliau'r Pasg.
Mae fy nghyngor yn parhau i gael ei lywio gan farn Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE) a Chell Cyngor Technegol Cymru (TAC), a thrwy drafodaethau â Phrif Swyddogion Meddygol y 4 Gwlad.
Rydym wedi dechrau ar gyfnod sensitif yn ein rheolaeth o'r pandemig gyda throsglwyddo cymunedol ar lefelau is, gostyngiad yn nifer y profion positif a chapasiti'r GIG yn parhau i wella. Fodd bynnag, mae cyfran sylweddol o'n poblogaeth yn dal i fod yn agored i effaith uniongyrchol COVID-19; haint difrifol, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaeth.
Mae’r cyfyngiadau symud wedi llwyddo i leihau nifer yr achosion o'r feirws, sy'n creu amgylchedd ffafriol ar gyfer llacio cyfyngiadau penodol. Fodd bynnag, nodaf fod ein modelau data yn parhau i awgrymu y bydd codi gormod o gyfyngiadau ar yr un pryd yn cynyddu'r cyfleoedd i gymysgu, yn cynyddu nifer yr unigolion heintiedig ac yn arwain at gynnydd eto yn nifer yr achosion a'r posibilrwydd gwirioneddol o don arall o’r coronafeirws.
Mae ein rhaglen frechu yn mynd rhagddi’n dda a dros amser bydd yn lleihau ein dibyniaeth ar fesurau rheoli poblogaeth, ond nid yw'n glir eto a ydym wedi brechu cyfran ddigonol o’r boblogaeth i allu torri’r cysylltiad rhwng trosglwyddo cymunedol, salwch difrifol a marwolaeth.
Mae'r posibilrwydd o gyflwyno’r haint o’r newydd a chyflwyno amrywiolion newydd o COVID-19 o rannau eraill o'r DU ac o wledydd eraill yn parhau i fod yn fygythiad i'n hadferiad parhaus a dylem barhau i bwyso am reolaethau mwy effeithiol ar ffiniau'r DU.
Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, mae'n ddyletswydd ar sectorau i gynnal yr asesiadau risg ac i roi'r mesurau lliniaru ar waith a fydd yn atal trosglwyddo, megis awyru mannau a rennir er mwyn osgoi cronni aerosolau os yw rhywun wedi'i heintio a defnyddio gorchuddion wyneb lle bo angen i ddiogelu ein gilydd rhag lledaeniad asymptomatig y feirws.
Mae ymddygiad priodol gan y cyhoedd (aros yn yr awyr agored, ymbellhau cymdeithasol a hunanynysu pan fydd ganddynt symptomau) yn hanfodol er mwyn cadw trosglwyddiad y feirws ar lefel y gellir ei rheoli; ac mae angen negeseuon cyson a pharhaus ar beryglon cymysgu cymdeithasol (yn enwedig dan do).
Rwy’n cydnabod rhinweddau cysondeb ar draws gwledydd y DU ond fy argymhelliad i yw ein bod yn parhau â’n dull gweithredu o lacio fesul cam. Bydd camau gofalus ar gyfer llacio’r cyfyngiadau yn adeiladu ar yr aberth sylweddol a wnaed gan bawb i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Bydd monitro gofalus ar bob cam yn fodd i werthuso’r trefniadau llacio yn erbyn effeithiolrwydd y rhaglen frechu, a bydd yn cefnogi'r gwaith o reoli achosion a chlystyrau newydd ac yn gwella’r broses o ganfod ac ymateb i amrywiolion newydd. Bydd y dull hwn yn hwyluso amseru a threfn y trefniadau llacio yn seiliedig ar hynt y pandemig fel ein bod yn teilwra ein hadferiad i’r risg.
Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol