Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog ar cadw rheoliadau diogelu iechyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi adolygu’r cynnig i gadw’r rheoliadau Diogelu Iechyd presennol sy’n cyd-fynd â Lefel Rhybudd 4 yng Nghymru ac rwy’n cytuno eu bod yn ymateb angenrheidiol i’r sefyllfa ddifrifol sy’n ein hwynebu, wrth i achosion o’r coronafeirws gynyddu yn y rhan fwyaf o’r wlad.

Mae’r straen newydd o amrywiolyn o’r feirws a ddaeth i’r amlwg cyn y Nadolig yn cyfrannu i’r tuedd cynyddol yma. Mae dadansoddiadau cynnar yn awgrymu bod yr amrywiolyn hwn yn llawer mwy trosglwyddadwy. Amcangyfrifir bod ganddo’r potensial i gynyddu’r rhif atgynhyrchu (R) 0.4 a’i fod hyd at 70% yn fwy trosglwyddadwy.

Mae feirysau’n esblygu’n barhaus drwy fwtadu felly nid yw ymddangosiad amrywiolyn newydd yn peri pryder ynddo’i hun; fodd bynnag, mae’r ffaith bod y straen hwn yn fwy heintus ac yn lledaenu’n gyflym iawn yn bryderus. Mae’n debygol y bydd yr amrywiolyn newydd hwn yn cyfrif am y mwyafrif o achosion yng Nghymru yn y dyfodol agos.

Er nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd bod heintiau yn sgil y straen hwn yn fwy difrifol, mae effaith y cynnydd ym mha mor drosglwyddadwy yw ef ar nifer yr heintiau, cleifion mewn ysbytai a marwolaethau yn fawr, yn enwedig i’r rhai mewn grwpiau oedran hŷn neu’r rhai â chydafiachedd. Heb gymryd camau pellach, mae perygl sylweddol y gallai capasiti’r GIG gael ei orlethu yn y 21 diwrnod nesaf mewn sawl ardal yn y DU.

Yn sgil y bygythiad gwirioneddol hwn, rwyf i a’r Prif Swyddogion Meddygol eraill o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cynyddu lefel risg y DU i’r lefel uchaf (Lefel 5). Rydym wedi galw am barhad yn y cyfyngiadau neu am gyfyngiadau llymach pan fo’n bosibl, a mwy o bwyslais ar gydymffurfiaeth y cyhoedd ag ymddygiad sy’n lleihau risg. Mae’r mesurau lliniaru presennol (aros gartref, cadw pellter cymdeithasol, awyru, hylendid dwylo a gwisgo gorchuddion wyneb) yn hanfodol bwysig o hyd, ond, o ystyried y cynnydd mewn risg yn sgil yr amrywiolyn newydd, mae angen negeseuon mwy effeithiol ynglŷn ag osgoi pob cysylltiad cymdeithasol diangen.

Bydd angen i bobl agored i niwed fod yn arbennig o ofalus. Mae llythyr wedi’i anfon at y rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol i’w cynghori i gymryd gofal a phenderfynu’n ofalus rhwng y budd a geir wrth leihau eu cysylltiadau â phobl eraill a’r niwed sy’n gallu cael ei achosi pan fydd rhywun yn hunanynysu, tan yr adolygiad nesaf ar 7 Chwefror. Mae’r rhaglen frechu yn cynnig ffordd ymlaen, rhywbeth sydd i’w groesawu, ond, o ystyried y lefelau isel sydd wedi’u brechu yn y cyfnod cynnar hwn, nid yw’n newid yr angen i fod yn arbennig o ofalus.

Rwyf wedi darparu canllawiau i bob lleoliad gofal iechyd i atgoffa gwasanaethau o’r mesurau atal a rheoli haint angenrheidiol, y dylai cyfarpar diogelu personol fod ar gael yn hwylus ac y dylai staff ei ddefnyddio bob amser, bod protocolau glanhau ac awyru yn cael eu dilyn a’u hoptimeiddio, a bod cleifion ac ymwelwyr yn gwisgo masgiau bob amser oni bai ei bod yn glinigol amhosibl gwneud hynny.

Rydym mewn cyfnod anodd o’n hymdrech i reoli’r pandemig. Er fy mod cydnabod y niwed economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil y cyfyngiadau presennol, rwy’n cefnogi’r penderfyniad i barhau â’r cyfyngiadau am hyd y cyfnod adolygu nesaf.

 

Dr Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol

7 Ionawr 2021