Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gadw'r cyfyngiadau Diogelu Iechyd presennol sy'n cyd-fynd â Lefel Rhybudd 4 yng Nghymru.
Rwyf wedi adolygu’r cynnig i gadw’r cyfyngiadau Diogelu Iechyd sy’n cyd-fynd â Lefel Rhybudd Pedwar yng Nghymru ac rwy’n cefnogi’r sefyllfa hon.
Gwelwyd gwelliannau mewn cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn y tair wythnos diwethaf ond mae’r sefyllfa yn ansefydlog o hyd ac mae COVID-19 yn parhau i fod ar led ym mhob rhan o Gymru. Mae cyfraddau profi yn is a all olygu bod lefelau’r haint yn gostwng yn y gymuned ond gall hyn hefyd fod o ganlyniad i’r tywydd garw; stormydd, llifogydd ac eira dros yr wythnosau diwethaf. Mae’r potensial y gallai’r amrywiolyn newydd sy’n peri pryder yn y DU, sydd 70% yn fwy trosglwyddadwy, ac yn bresennol yn awr ym mhob rhanbarth o Gymru, ddatsefydlogi’r sefyllfa ymhellach yn parhau i fod yn aneglur. Mae’r effaith ar y GIG yn ddifrifol o hyd. Mae derbyniadau i’r ysbyty gyda COVID-19, er yn gostwng, yn gymharol uchel o hyd ac mae achosion yn yr unedau gofal dwys yn uchel ond, o bosib, yn sefydlogi.
Ym mis Tachwedd/Rhagfyr, gwelsom nifer yr achosion yn gostwng yn gyflym yn ystod y cyfnod atal byr, ond yna yn cynyddu ar ôl llacio’r cyfyngiadau, felly mae’n ddoeth cymryd y camau gofalus hyn. Nid yw’r newidiadau bychan a gynigiwyd: caniatáu ailffurfio swigen gefnogaeth os oes angen a chaniatáu i unigolion gwrdd ag un person o aelwyd arall i ymarfer corff yn yr awyr agored, yn debygol o wrth wneud ein hymdrechion i atal trosglwyddiad yn y gymuned, a bydd y pethau hyn yn cynnig manteision yn syth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant corfforol wrth i’r cyfyngiadau barhau. Hefyd, gellir gwneud y ddau beth yn y ffordd ddiogelaf bosibl. Gwyddom ei bod yn llai tebygol ichi gael eich heintio yn yr awyr agored, ond nid yn amhosibl, felly mae’n bwysig cadw pellter cymdeithasol ac osgoi sgwrsio wyneb yn wyneb. Bydd sicrhau bwlch o 10 diwrnod rhwng dod ag un swigen gefnogaeth i ben a ffurfio swigen gefnogaeth newydd yn lleihau’r risg o haint.
Mae dros 310,000 dos o frechlynnau wedi’u rhoi yng Nghymru yn gyflym iawn, a dylid llongyfarch pawb a fu’n rhan o’r gwaith am eu hymdrechion. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw frechlyn yn 100% effeithiol. Y grŵp craidd sy’n cael eu brechu yn gyntaf yw’r bobl sydd mewn mwyaf o berygl o farwolaeth a salwch difrifol, ond nid ymhlith y bobl hyn y mae’r cyfraddau uchaf o achosion newydd; pobl o oedran gweithio yw’r rhain, felly mae’n rhaid inni ddal ati i ymddwyn fel nad yw unrhyw un wedi cael y brechlyn eto. Mae ein cyfraddau uchel o’r coronafeirws yn y gymuned, a’r ffaith mai’r straen cryfaf yw’r straen heintus iawn o Gaint, yn golygu bod risg parhaus y bydd y feirws yn cael ei drosglwyddo o berson i berson. Aros gartref yw’r cam gweithredu gorau sy’n cael ei gymryd gan fwyafrif pobl Cymru, a bydd cofio golchi’ch dwylo, gorchuddio’ch wyneb, a chadw pellter os ydych angen mynd allan yn helpu i ddiogelu pawb.
Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol
28 Ionawr 2021