Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar yr adolygiad 21 diwrnod diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n nodi ac yn cefnogi’r argymhelliad i gadw’r gofynion lefel rhybudd sero presennol ar gyfer y cyfnod adolygu hwn.

Rydym wedi gweld y nifer uchaf o achosion newydd yn cael eu diagnosio ers dechrau’r pandemig. Ymddengys mai’r prif reswm am hyn yw’r gyfradd heintio ymhlith pobl ifanc – mae’r gyfradd achosion ar gyfer pobl ifanc dan 25 oed yn fwy na 1,000 fesul 100k. Mae rhywfaint o dawelwch meddwl yn y ffaith bod y gyfradd lawer yn is ac yn fwy sefydlog ymhlith y grŵp risg uchel a phobl dros 60 oed, sy’n awgrymu bod y effaith rhaglen frechu yn parhau i’w diogelu. Nid yw COVID yn effeithio mor ddifrifol ar bobl ifanc, ond bydd cynifer o achosion yn golygu bod risg y bydd yn amharu ar eu haddysg a’r risg o gael COVID hir.

Mae dros 600 o gleifion yn yr ysbyty yng Nghymru â phroblemau sy’n gysylltiedig â COVID, ffigur sydd wedi gostwng rhywfaint dros yr wythnos ddiwethaf. Ond er bod nifer yr achosion lawer yn is nag yr oedd yn ystod tonnau blaenorol, mae’r GIG yn parhau i fod dan bwysau enfawr wrth iddo geisio rheoli’r rhestrau aros hir a’r galw cynyddol. Pe bai’r niferoedd yn cynyddu, gellid lleihau rhywfaint o’r pwysau drwy gyfyngu ar wasanaethau gofal nad ydynt yn gysylltiedig â COVID, ond bydd hyn yn achosi mwy o niwed yn y pen draw.

Felly mae’r sefyllfa’n dangos bod y cyfraddau achosion yn uchel ond bod y lefelau o niwed yn llai oherwydd y brechlyn, a’u bod yn sefydlog ar hyn o bryd. Mae pwysau enfawr ar wasanaethau profi ac olrhain cysylltiadau, ond gan fod y gyfradd digwyddedd achosion ar gyfer y 7 diwrnod hyd at 30 Medi yn 530, i lawr o’i lefel uchaf o 652 yn ystod y 7 diwrnod cyn hynny, rwy’n gobeithio ein bod yn dechrau gweld gostyngiad yn nifer yr achosion, fel y rhagdybiwyd gan y modelau.

Rwy’n croesawu’r ffaith bod y rhaglen pigiadau atgyfnerthu wedi dechrau, gan ganolbwyntio ar y bobl fwyaf agored i niwed a’r rheini sy’n gweithio yn ein lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae pobl ifanc 12-15 oed hefyd yn cael cynnig y brechlyn am y tro cyntaf, gan ddefnyddio model cyflenwi yng Nghymru sy’n cynnwys canolfannau brechu, a ddylai helpu i osgoi rhai o’r anawsterau a brofwyd gan staff addysgu ac ysgolion yn Lloegr yn ddiweddar.

Mae cyfradd drosglwyddo SARS-CoV-2  drwy’r awyr yn sylweddol a dylid ei reoli cymaint â phosibl. Rwy’n cefnogi unrhyw fesurau atgyfnerthu neu newidiadau i weithrediadau adeiladau, gan gynnwys gweithredu’r gwres, systemau awyru ac aerdymheru, er mwyn lleihau cysylltiad â’r feirws drwy’r awyr, ond rwy’n sylweddoli y bydd newidiadau yn cymryd amser. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod angen sicrhau bod y mesurau seilwaith hyn yn cyd-fynd â’n hymdrechion i leihau’r effaith ar y newid yn yr hinsawdd.

Mae cyfathrebu yn parhau i fod yn strategaeth bwysig, ac mae angen inni atgoffa poblogaeth Cymru nad yw’r pandemig ar ben, a bod effaith hirdymor haint COVID ar unigolion yn dal i ddod i’r amlwg, a bod pethau y gallwn ni wneud ar lefel bersonol a chymunedol i helpu i leihau’r lefel drosglwyddo. Gyda llai o reoliadau yn eu lle, mae cynnal ymddygiadau i’n diogelu ni ein hunain a’r rheini o’n cwmpas, yn parhau i fod yn sylfaenol bwysig. Mae hyn yn golygu hunanynysu gartref os ydych yn sâl a threfnu prawf os ydych yn dangos symptomau o COVID-19; hunanynysu os ydych yn dangos symptomau o COVID-19 neu os ydych wedi cael cyngor i wneud hynny gan y gwasanaeth Olrhain, Profi, Diogelu; helpu eraill sy’n hunanynysu; a chael y brechlyn, gan gynnwys pigiadau atgyfnerthu, ac annog eraill i wneud hynny hefyd.

Yn ogystal â hynny, lle y bo’n bosibl, mae’r cyngor canlynol yn parhau i fod yn bwysig: peidiwch â threulio gormod o amser yn cymysgu ag eraill; dylech gwrdd yn yr awyr agored; agorwch ffenestri a drysau pan fyddwch dan do; golchwch eich dwylo’n dda; a gweithiwch gartref lle y bo hynny’n bosibl. Mae dal yn ofynnol i wisgo masg yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do, a bydd hyn hefyd yn cyfrannu at leihau trosglwyddiad yr haint.

Gallwn ddisgwyl gweld mwy o lawer o achosion o’r ffliw a heintiau anadlol eraill yn yr ychydig fisoedd nesaf. Nid wyddom beth fydd effaith y ddau haint - ffliw a COVID-19 -gyda’i gilydd. Dylid gwneud pob ymdrech i annog pob grŵp cymwys i gael y brechlyn ffliw.

Dr Chris Jones
Y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol