Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae arnom angen eich caniatâd i lwytho fideos YouTube

Gallai’r fideo yma ddefnyddio cwcis neu dechnolegau eraill nad yw eich gosodiadau LLYW.CYMRU yn gweddu iddynt.

Efallai yr hoffech ddarllen polisi preifatrwydd Google cyn derbyn.

Dewiswch 'derbyn a pharhau' i lwytho’r fideo yma.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi gofyn i bawb yng Nghymru wneud newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau. Rydyn ni wedi gofyn i chi aros gartref. Rydyn ni wedi gofyn i chi weithio o gartref os allwch chi, a pheidio â theithio oni bai fod hynny yn gwbl angenrheidiol.

Rydyn ni wedi gwneud hyn er mwyn arafu lledaeniad coronafeirws yng Nghymru. I achub bywydau ac i warchod ein GIG.

Ond nawr mae'n rhaid i ni gyflwyno mwy o fesurau sy'n llymach fyth.

O nawr ymlaen, bydd pob un o siopau'r stryd fawr ar gau, ac eithrio'r rhai sy'n gwerthu bwyd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post.

Bydd gwasanaethau GIG lleol, gan gynnwys eich meddyg teulu, yn parhau i fod ar agor.

Ni ddylai digwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys priodasau, gwasanaethau bedydd a seremonïau eraill, yn ogystal â chyfarfodydd o fwy na dau o bobl yn gyhoeddus, ddigwydd o gwbl. Bydd angladdau yn parhau i gael eu cynnal ond dim ond gyda'r teulu agosaf yn bresennol.

Rydyn ni'n gofyn i bawb aros gartref - plîs peidiwch â mynd allan dim ond unwaith y dydd i siopa am fwyd sylfaenol os oes raid i chi, ac i ymarfer yn agos at eich cartref.

Dylai pawb weithio o gartref nawr hefyd, os allwch chi.

Nawr mae'r rhain yn newidiadau mawr iawn i ni i gyd. Rydyn ni'n eu gwneud nhw oherwydd y cyflymder y mae'r feirws yn parhau i ledaenu.

Plîs helpwch ni i'ch gwarchod chi ac achub bywydau. Gyda'n gilydd, fe allwn ni wneud hyn.