Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i'r Prif Weinidog ar Ddiwygiadau i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Rhagfyr 2020). 

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi adolygu'r cynnig i gadw'r cyfyngiadau Diogelu Iechyd presennol a chysoni'r mesurau hyn â'r pedair lefel a amlinellir yn y Cynllun Rheoli COVID.  Nodaf y cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghymru o'i gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Mae effaith gadarnhaol ein cyfnod atal byr yn yr hydref wedi gwanhau, a'r darlun cyffredinol yw cynnydd yn lefelau trosglwyddo’r feirws yng Nghymru, a hynny’n cael effaith fawr ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol. 

Rwy’n cytuno felly fod angen i Gymru gryfhau'r cyfyngiadau presennol ac rwyf o blaid symud i drefniadau lefel 4 cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. 

Rwyf hefyd yn argymell newid y trefniadau ar gyfer llacio’r rheolau dros y Nadolig y cytunwyd arnynt ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Bydd lleihau nifer yr aelwydydd sy'n cael ymuno â'i gilydd yn lliniaru’r cynnydd yn nhrosglwyddiad y feirws y cydnabyddir ei fod yn debygol o ddigwydd yn sgil y llacio. 

Rydym yn cynghori pobl sydd yn y grŵp clinigol eithriadol o agored i niwed neu sydd dros 70 oed i gyfyngu ar gysylltiadau y tu allan i'w haelwydydd uniongyrchol, yn awr a thros gyfnod y Nadolig. Rwy'n ysgrifennu at y grŵp hwn gyda chyngor pellach i gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau.

Rwy’n argymell ein bod yn annog awdurdodau lleol i wneud popeth o fewn eu gallu i atal pobl rhag ymgasglu mewn mannau cyhoeddus – os oes bwriad i gynnal digwyddiadau tymhorol fel gŵyl y gaeaf neu farchnad Nadolig dylid eu trefnu mewn ffordd nad yw’n annog pobl i gymysgu’n gymdeithasol, neu dylid eu canslo eleni. 

Dylai ein negeseuon i'n cymunedau bwysleisio mai aros gartref, peidio â theithio, peidio â siopa am nwyddau nad ydynt yn hanfodol a peidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden yw’r ffordd orau o ddiogelu ein hunain, ein teuluoedd, ein cymunedau a’n Gwasanaeth Iechyd.

Dr Frank Atherton
Y Prif Swyddog Meddygol
17 Rhagfyr 2020