Cyhoeddwyd Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ar draws Cymru gyfan o 00:01 ddydd Iau 30 Ionawr 2025.
Dogfennau

Datganiad parth atal ffliw adar Cymru gyfan: 30 Ionawr 2025 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 296 KB
PDF
296 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Manylion
Datganwyd Parth Atal Ffliw Adar ledled Cymru gyfan o 00:01 ddydd Iau 30 Ionawr 2025. Bydd y parth yn aros yn ei le nes bod gostyngiad mewn lefelau risg yn dangos nad oes angen iddo mwyach.
Mae'r parth hwn yn cyflwyno mesurau bioddiogelwch llym i bob ceidwad adar i helpu i atal lledaeniad ffliw adar o adar gwyllt neu unrhyw ffynhonnell arall. Mae'r rhain yn cynnwys:
- cwblhau'r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch gorfodol
- cymryd camau i osgoi halogiad firws o fewn a rhwng safle
- cadw cofnodion ar gael ar alw am symudiadau adar, marwolaeth a gwaredu
- cadw adar heb eu cadw mewn ardaloedd awyr agored caeedig wedi'u ffensio
- cyfyngiadau ar symud adar hela gwyllt a ddaliwyd yn ystod y tymor agored