Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Ddydd Gwener, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ddatganiad ysgrifenedig i aelodau am sefyllfa ddiweddaraf y coronafeirws yn y De.
Mae nifer yr achosion yn rhannau o’r De wedi bod yn cynyddu’n gyflym gan arwain at gyflwyno cyfyngiadau lleol newydd yn Llanelli ddydd Sadwrn a daw cyfyngiadau lleol i rym yng Nghaerdydd ac Abertawe ddydd Sul am 6pm.
Yn ei ddatganiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai’n cadw golwg fanwl ar y sefyllfa yng Nghastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thor-faen dros y penwythnos gan ystyried a fydd angen cyflwyno cyfyngiadau lleol yn yr ardaloedd hyn.
Rydym wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr achosion o fewn ffiniau’r tair ardal dros yr ychydig wythnosau diwethaf ac mae pob un yn ffinio ag ardaloedd â chyfraddau llawer uwch o’r coronafeirws.
Rydym wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd heddiw gydag arbenigwyr iechyd cyhoeddus, arweinwyr awdurdodau lleol, y GIG, yr heddlu a chomisiynwyr heddlu a throseddu i asesu’r sefyllfa ddiweddaraf yn yr ardaloedd hyn.
Roedd pawb yn gytûn bod angen cyflwyno cyfyngiadau lleol yng Ngastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thor-faen. Byddan nhw’n dod i rym am 6pm ddydd Llun (28 Medi). Mae hynny’n golygu y bydd pawb yn y tri awdurdod lleol yn gorfod cadw at y rheolau canlynol:
- Fydd neb yn cael mynd i’r ardal na’i gadael heb esgus resymol.
- Fydd neb, am y tro, yn cael cwrdd dan do ag unrhyw un os nad yw’n byw gyda nhw – ni fydd y fath beth ag aelwyd estynedig (neu ‘swigen’) am y tro.
- Rhaid i safleoedd trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm.
- Rhaid i bawb sy’n gallu gweithio gartref wneud hynny.
Bydd cyfran fawr o boblogaeth y De felly yn byw mewn ardaloedd o dan gyfyngiadau lleol i ddiogelu’u hiechyd a rhwystro’r coronafeirws rhag lledaenu.
Er yr un yw’r cyfyngiadau ym mhob awdurdod lleol, nid yw hynny’n golygu bod pobl o un ardal o dan gyfyngiadau lleol yn cael mynd i ardal arall o dan gyfyngiadau lleol oni bai bod ganddyn nhw esgus resymol, fel teithio ar gyfer gwaith neu addysg.
Nid cyfyngiadau rhanbarthol mohonynt. Rydym wedi creu cyfres o gyfyngiadau lleol i ymateb i gynnydd penodol ym mhob ardal. Mae natur unigryw a gwahanol i’r gadwyn heintio ym mhob ardal.
Mewn rhai lleoedd, fel Caerffili a Chasnewydd, rydyn ni wedi gweld cwymp go iawn ac os bydd hynny’n parhau, y gobaith yw dechrau llacio’r cyfyngiadau.
Mae’n arbennig o bwysig fod pawb yn cadw at y rheolau yn eu hardal. Mae angen help pawb arnon ni i gael rheolaeth ar y coronafeirws. Rhaid i bawb gyd-dynnu a chadw at y mesurau sydd wedi’u gosod i’ch diogelu chi a’ch anwyliaid.
Byddwn yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa yn y Gogledd. Mae nifer yr achosion yno ar hyn o bryd lawer yn is nag yn y De, ond mae yna dystiolaeth bod y coronafeirws ar gynnydd mewn rhannau o’r rhanbarth. Byddwn yn cwrdd ag arweinwyr awdurdodau lleol y Gogledd wythnos nesaf i drafod y sefyllfa wrth iddi ddatblygu.