Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ysgrifennaf atoch i roi’r newyddion diweddaraf i chi am Ardaloedd Twf Lleol Powys, yn dilyn fy Natganiad Llafar yn y Siambr ar 6 Tachwedd, pan amlinellais ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru i’r adroddiad a luniwyd gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys.

Roedd llawer o’r argymhellion yn yr adroddiad yn rhai i Gyngor Sir Powys eu datblygu. Adeg fy Natganiad fis diwethaf nid oeddwn wedi cael yr ymateb ffurfiol gan y Cyngor. Gan fy mod bellach wedi cael eu hymateb rwy’n rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau, yn unol â’r hyn y cytunais arno.

Mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi ystyried yr amrywiol argymhellion mewn perthynas ag Ardaloedd Twf Lleol ac maent wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o’r camau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Rwy’n falch bod y Cyngor am gefnogi mentrau sy’n ymwneud â swyddi a thwf, yn arbennig ar gyfer BBaChau lleol.

Mae’r Cyngor wedi datgan ei fod wedi ymrwymo i weithio ar y cyd er mwyn rhoi’r Ardaloedd Twf Lleol ar waith. Bydd y Cyngor yn cefnogi Llywodraeth Cymru a’r gymuned fusnes yn arbennig i ddatblygu’r ymrwymiadau a gyhoeddais fis diwethaf, sef:

  • Cynllun gweithredu ac Ardal Gwella Busnes bosibl yn Llandrindod
  • Prosiect hwyluso mentrau yn y Drenewydd, a
  • Rhwydwaith ddigidol drefol yn Aberhonddu

Mae nifer o fentrau penodol wedi cael eu nodi yn adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fel y rhaglen Treftadaeth Treflun a’r prosiect galluogi Wi-Fi y mae’r Cyngor Sir yn gyfrifol amdanynt. Mae’r Cyngor wedi fy nghynghori y bydd yn ystyried sut y gall ariannu’r gweithgareddau penodol hyn fel rhan o’i broses pennu cyllideb, yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae’r Cyngor wedi cefnogi prosiect peilot ar y stryd fawr yn nhrefi Rhaeadr Gwy a’r Drenewydd. Mae’r prosiect wedi ymchwilio i nifer o opsiynau ar gyfer cynnal prosiectau yn y stryd fawr i fynd i’r afael â’r materion presennol a nodi ffyrdd i gynyddu’r defnydd a wneir o’r stryd fawr. Bydd y Cyngor yn ystyried argymhellion yr adroddiad ac yn ystyried unrhyw gamau gweithredu fel rhan o’r broses o bennu cyllideb.

Rwy’n falch bod y Cyngor wedi cytuno i ymchwilio i’r opsiwn o fabwysiadu Gorchmynion Datblygu Lleol mewn perthynas â chynllunio yn yr Ardaloedd Twf Lleol. Byddaf hefyd yn cynnal trafodaethau â Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i weld a ellir gwneud rhagor i annog datblygu, yn arbennig lle y gallai rhai materion sy’n ymwneud â chynllunio gyfyngu ar ein huchelgais i sicrhau swyddi a thwf.

O ran y prosiect peilot yn Llandrindod, rwy’n falch bod Justin Baird Murray yn dod â phobl fusnes o’r dref ynghyd i ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn mynd i’r afael â chynaliadwyedd economaidd y dref. Mae’r Grŵp wedi cwrdd am y tro cyntaf ar 5 Rhagfyr.

Yn ogystal â hynny, mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda sefydliad Sirolli i ymchwilio i’r model datblygu economaidd cymunedol yn y Drenewydd a’r ardal gyfagos, ac i’r rhwydwaith gwefan leol i wella economi canol tref Aberhonddu.

Rwyf wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda’r holl bartneriaid, gan gynnwys y Cyngor, i sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd ar gyfer busnesau a chymunedau ym Mhowys yn sgil adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth i’r gwaith ddatblygu.