Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.
Ar 13 Mehefin 2011, es i i gyfarfod Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Ewrop) ar ran Prif Weinidog Cymru.
Pwyllgor ffurfiol yw Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Ewrop) a sefydlwyd o dan y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU i drafod y gwaith o gydlynu polisïau Ewropeaidd. Cynhelir pedwar cyfarfod bob blwyddyn cyn pob un o gyfarfodydd y Cyngor Ewropeaidd (ym mis Mawrth, Mehefin, Hydref a Rhagfyr).
CRYNODEB
Amlinellais flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran yr UE, gan bwysleisio ein buddiannau yn y trafodaethau arfaethedig ynglŷn ag amaethyddiaeth a chyllid yr UE. Rhoddais bwyslais ar gydweithio, ymgynghori a chydweithredu rhwng gweinidogion a swyddogion y pedair gweinyddiaeth a'r pwys y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y gallu i fynd i gyfarfodydd Cyngor yr UE a siarad ynddynt.
Mewn trafodaeth am gyfarfod y Cyngor Ewropeaidd a gynhaliwyd ar 23 a 24 Mehefin, cadarnheais fod Cymru wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â phobl Roma; pwysleisiais fod angen ymgynghori ynghylch cyfraniad Cymru at y camau gweithredu a argymhellir gan y Comisiwn Ewropeaidd i wella’r economi yn y DU fel rhan o'r Tymor Ewropeaidd; a chroesewais ffocws y DU ar ddadreoleiddio ond ategais yr angen i drafod y broses fel na fyddai effeithiau anfwriadol ar drefniadau llunio deddfau Cymru.
Tynnais sylw hefyd at sefyllfa Llywodraeth Cymru o ran Fframwaith Ariannol Amlflwydd yr UE (neu'r Persbectifau Ariannol fel y'i gelwir weithiau) – cyllideb saith mlynedd yr UE ar gyfer 2014-20 – sy'n cwmpasu holl feysydd gwariant yr UE, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r Cronfeydd Strwythurol.
Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i ategu’r pwysigrwydd y mae'r llywodraeth hon yn ei roi ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r Cronfeydd Strwythurol, ac effaith bosibl unrhyw ostyngiadau yng nghyllideb yr UE ar ffermwyr a chymunedau Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i danlinellu pwysigrwydd y trafodaethau arfaethedig ynglŷn â chyllideb yr UE ac i gyfarfod â gweinidogion Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu diwallu a bod ein llais yn cael ei glywed, o ran y materion hyn a materion Ewropeaidd eraill sy'n effeithio ar Gymru.