Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gais Llywodraeth Cymru i gael y Banc Buddsoddi Gwyrdd yng Nghymru.  

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddoe (8 Mawrth 2012) y dylai pencadlys y Banc fod yng Nghaeredin, gyda chanolfan tîm trafodion a thîm chyllido prosiectau’r Banc mewn swyddfa yn Llundain, ar y cychwyn.  

Rwy’n siomedig yn naturiol i’r cais a wnaethom i Lywodraeth y DU i leoli’r Banc Buddsoddi Gwyrdd yng Nghaerdydd fod yn aflwyddiannus.  Ar ran Llywodraeth Cymru a Chaerdydd, cyflwynodd fy Mhanel Sector Ariannol a Gwasanaethau Proffesiynol gais cadarn.  Roedd cryn gystadleuaeth i wahodd y Banc Buddsoddi Gwyrdd, gyda 32 o geisiadau ar wahân.  Unwaith y cawn yr adborth gan Lywodraeth Prydain, fe fyddaf wrth gwrs yn edrych ar hyn eto gyda Chadeirydd y Sector.

Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gael cyfleon am dwf proffidiol yn y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yng Nghymru, gan gynnwys datblygu cynlluniau i ddynodi Ardal Fusnes Caerdydd fel unig Barth Menter gwasanaethau ariannol Prydain.  At y diben hwn, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar helpu busnesau o Gymru i fanteisio ar y cyfleoedd am fwy o swyddi fydd yn deillio o’r “Y Fargen Werdd”.  

Bydd Y Fargen Werdd yn rhoi benthyciadau gwyrdd ar gyfer technolegau arbed ynni, ac mae ganddi’r potensial i greu llawer mwy o swyddi na’r 50-70 sy’n cael eu creu gan y Banc Buddsoddi Gwyrdd.  Mae nifer o gwmnïau o Gymru yn ymwybodol o’r cyfleoedd a ddaw yn y dyfodol gyda’r Fargen Werdd, ac mewn sefyllfa dda i gefnogi menter y Fargen Werdd.