Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n cyhoeddi ymgynghoriad 8 wythnos heddiw ar gynigion i ddiogelu ardal o gregyn dilyw (Modiolus modiolus) wrth benrhyn Llŷn.  Yn adran 42 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, mae riffiau cregyn dilyw’n cael eu rhestru fel cynefin pwysig iawn at bwrpas diogelu amrywiaeth fiolegol Cymru.  O ganlyniad, mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau rhesymol i warchod y rîff cregyn dilyw neu i annog eraill i gymryd y camau hynny.

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn ei gyngor yn esbonio ei bod hi’n hawdd iawn difrodi riffiau cregyn dilyw trwy gysylltiad ffisegol uniongyrchol.  Y bygythiad pennaf i rîff cregyn dilyw yw’r offer pysgota sy’n cael eu llusgo ar hyd wely’r môr, ac mae’n debygol mai llusgrwydi cregyn bylchog fydd yn debygol o achosi’r difrod mwyaf i riffiau o’r math hwn.  Felly, wedi ystyried y dystiolaeth a’r wybodaeth sydd ar gael, mae’r ymgynghoriad yn cynnig tri opsiwn rheoli. 

  1. Gwahardd defnyddio offer llusgrwydo cregyn bylchog – gellid cyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio offer llusgrwydo cregyn bylchog yn ardal y rîff cregyn dilyw ac mewn ardal glustogi briodol o’i chwmpas.
  2. Gwahardd offer pysgota sy’n cael eu llusgo ar hyd wely’r môr – gellid cyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio offer sy’n cael eu llusgo ar hyd wely’r môr yn ardal y rîff cregyn dilyw ac mewn ardal glustogi briodol o’i chwmpas.
  3. Gwahardd defnyddio offer pysgota yn llwyr – gellid cyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio offer pysgota yn ardal y rîff cregyn dilyw ac mewn ardal glustogi briodol o’i chwmpas.

Yn ogystal, mae’n ystyried hefyd y posibilrwydd o i) ddiddymu is-ddeddf 21 Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru gynt a diogelu’r rîff sydd newydd ei ddarganfod a’r rîff sy’n cael ei warchod gan is-ddeddf 21 trwy un gorchymyn newydd ac o ii) newid yr ardal sy’n dod o dan is-ddeddf 21 (h.y. newid yr ardal glustogi). 

Gan fod y cynnig yn un lleol, nid oes gennym wybodaeth ynghylch ei effaith economaidd bosibl.  Carwn annog unrhyw un felly sydd â budd yn yr ardal i ymateb i’r ymgynghoriad a rhoi gwybod imi beth mae’n ei feddwl.  Hoffwn glywed yn arbennig gan bysgotwyr sy’n credu y gallai’r cynigion hyn gael effaith andwyol arnynt.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei ryddhau yn ystod toriad yr haf er mwyn hysbysu’r aelodau. Byddaf yn barod iawn i gyflwyno datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar ôl i’r Cynulliad ddychwelyd pe bai’r aelodau’n dymuno i mi wneud hynny.