Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Heddiw, mae Prosiect Datblygu Busnes newydd yn cael ei sefydlu yng Nghasnewydd er mwyn edrych ar y potensial am dwf yng Nghanol Dinas Casnewydd, yn sgil trafodaethau adeiladol gyda’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a’r Cyngh. Bob Bright, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd.
Mae canol dinas yn allweddol ar gyfer creu cymunedau cryf a chynaliadwy. Er ein bod yn ymwybodol o’r heriau a wynebir yng Nghasnewydd, rydym hefyd yn cydnabod bod yma rai cyfleoedd gwirioneddol a’n bwriad yw nodi’r cyfleoedd hynny drwy gydweithio â’r sector preifat ar y Prosiect Datblygu Busnes hwn. Bydd y prosiect hwn yn cydategu a chefnogi ein gweithgareddau presennol i ddatblygu’r economi ac ym maes adfywio, e.e. creu dinas-ranbarthau a chefnogi Ardaloedd Gwella Busnes.
Rwyf wedi cytuno ar Gylch Gorchwyl ar gyfer y Prosiect Datblygu Busnes. Dyma ei brif amcanion:
- Ystyried y rhwystrau sy’n atal twf busnes yng Nghasnewydd yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor.
- Chwilio am gyfleoedd ar gyfer datblygu busnes yn y dyfodol.
- Canfod atebion a gwneud argymhellion ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor.
Rwy’n disgwyl i’r Prosiect Datblygu Busnes gydweithio’n agos â’r Adran Tai, Adfywio a Threftadaeth gan roi pwyslais cryf ar dai i adfywio Canol y Ddinas. Bydd cyfraniad y sector preifat yn allweddol i lwyddiant y prosiect wrth oresgyn rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu canol ein dinasoedd a threfi.
Rwyf wedi cytuno i swydd y Rheolwr Prosiect gael ei hariannu drwy fy Adran i, ac i grŵp llywio o’r sector preifat gael ei lunio i lywio gwaith y Rheolwr Prosiect. Rwy’n disgwyl i’r prosiect gael ei gyflawni o fewn chwe mis, ac i unrhyw gamau gweithredu byrdymor a gytunir gael eu gweithredu yn ystod y chwe mis canlynol, er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer y tymor canolig a hirach. Byddaf yn parhau i roi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am gynnydd y prosiect hwn.