Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy’n cyhoeddi dau becyn cyllid newydd gwerth £55miliwn i ysgogi economi Cymru a helpu busnesau ledled Cymru i dyfu. Rwy’n lansio cronfa i fuddsoddi mewn mentrau bach a chanolig sy’n werth £40miliwn a Chronfa Twf Economaidd Cymru sy’n werth £15miliwn, fel ymateb uniongyrchol i’r anhawster y mae busnesau yng Nghymru yn dal i’w hwynebu o ran codi arian.

Bydd Cronfa Twf Economaidd Cymru yn cynnig £15miliwn i fentrau bach a chanolig ledled Cymru nad oes yn rhaid ei dalu’n ôl. Bydd yn ei gwneud yn bosibl cael gafael ar arian cyfalaf ar unwaith i fuddsoddi mewn swyddi.
Rhwng 12 Rhagfyr 2011 a diwedd Ionawr 2012, bydd y gronfa yn agored i fentrau bach a chanolig a sefydliadau’r trydydd sector wneud cais am arian ar gyfer prosiectau sydd ag achos busnes cryf ac sy’n gallu dangos eu bod o fudd economaidd i Gymru.

Bydd y Gronfa Buddsoddi mewn Mentrau Bach a Chanolig yn cynnig benthyciadau o £20,000 i £2miliwn. Cyllid Cymru fydd yn rheoli hyn. Bydd Llywodraeth Cymru a’r sector preifat yn ariannu’r gronfa a bydd modd ailgylchu elw’r buddsoddiadau i greu cronfa ‘fythwyrdd’ i fentrau bach a chanolig yn y dyfodol.

Bydd y Gronfa Buddsoddi mewn Mentrau Bach a Chanolig yn gwbl weithredol ac yn cynnig cyllid i fusnesau yng Nghymru erbyn Mawrth 2012.

Bydd y pecyn hwn yn creu tua 2,000 i 5,000 o swyddi newydd, ac yn cynnal llawer o swyddi eraill