Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Yn dilyn fy ymateb i’r Cwestiwn Brys wythnos diwethaf, rwy’n ysgrifennu i roi rhagor o newydd i chi am y digwyddiadau diweddar mewn perthynas â Peacocks.
Ar 18 Ionawr, aeth Peacocks i ddwylo’r Gweinyddwyr, yn dilyn Hysbysiad o Fwriad i Benodi Gweinyddwr.
Ar 19 Ionawr, cyhoeddodd y gweinyddwyr KPMG y byddai 249 o swyddi’n cael eu dileu ym mhencadlys Peacocks yng Nghaerdydd ar unwaith. Mae 266 o staff yn parhau i weithio yn y pencadlys a byddan nhw’n gweithio gyda’r gweinyddwyr wrth fynd ati i chwilio am brynwr i’r cwmni.
Mae’n peri tristwch nad oedd modd i’r cwmni gytuno ar gynnig diwygiedig gyda’i fenthycwyr, er bod benthycwyr mawr yn parhau’n gefnogol.
Mae’r datblygiadau hyn yn ergyd drom i weithwyr Peacocks a’u teuluoedd. Mae’n drueni mawr nad oedd modd diogelu mwy o swyddi yn y pencadlys yng Nghaerdydd.
Roedd y cwmni’n cyflogi dros 500 o bobl yn y pencadlys ac oddeutu 700 yn ei ganolfannau dosbarthu yn Nantgarw, Merthyr Tudful a Threorci.
Ar 17 Ionawr siaradais â Gweinidog Busnes y DU i amlinellu fy mhryderon a bu fy swyddogion mewn cysylltiad â’r prif fenthyciwr yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i sicrhau ei fod wedi ystyried y goblygiadau i Gymru. Rydym wedi parhau i gyfathrebu â phencadlys Peacocks drwy gydol y cyfnod anodd hwn.
Rydym mewn cysylltiad â’r gweinyddwyr ac yn helpu’r gweithwyr hynny yng Nghymru sy’n wynebu diweithdra gyda chymorth ReAct, cyngor ac ailhyfforddiant i’w helpu i ddod o hyd i waith cyn gynted â phosibl.
Fel Llywodraeth, rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth yn ein galluogi i gefnogi’r cyflogwr mawr hwn a’i weithwyr yn y cyfnod anodd hwn ac rydyn ni’n obeithiol o hyd y bydd modd achub cynifer â phosibl o siopau a swyddi ledled y DU.