Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Ar 12 Gorffennaf 2011, yn ei ddatganiad ar Raglen Ddeddfu Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y byddai Bil yn cael ei gyflwyno i sefydlu trefniadau i sicrhau atebolrwydd, llywodraethu a throsolwg mwy effeithiol mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a’i Swyddfa.
Heddiw (15 Mawrth 2012) rwy’n cyhoeddi papur ymgynghori sy’n gofyn am sylwadau ar Fil Drafft a luniwyd i gyflawni’r amcanion hynny a rhagor.
Nid yw’r Bil Drafft yn gwneud Archwilydd Cyffredinol Cymru yn llai annibynnol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn wir, mae’n diogelu’r annibyniaeth honno, ac ar yr un pryd yn diwygio ac yn moderneiddio’r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ar gyfer yr Archwilydd a’i swyddfa ac yn sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru fel corff corfforaethol ac iddo statws cyfreithiol penodol a diffiniol.
Byddai’r Swyddfa Archwilio Cymru newydd yn gyfrifol am yr ystod lawn o swyddogaethau o natur gorfforaethol sy’n eiddo ar hyn o bryd i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Y bwriad y tu ôl i’r polisi yw sicrhau na fydd pwerau o’r fath bellach yn nwylo un unigolyn.
Byddai’r Swyddfa Archwilio newydd yn cynnwys saith o aelodau - y mwyafrif ohonynt (sef pump) yn aelodau anweithredol (neu heb fod yn gyflogeion). Byddai’r pum aelod anweithredol yn cael eu penodi gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, a hynny ar sail teilyngdod yn dilyn cystadleuaeth deg ac agored. Byddai Cadeirydd y Swyddfa newydd yn cael ei benodi gan y Cynulliad drwy gynnig a gyflwynid gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Byddai’r penodiad hwnnw hefyd yn cael ei wneud ar sail teilyngdod yn dilyn cystadleuaeth deg ac agored.Byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dod yn aelod o’r Swyddfa Archwilio newydd yn awtomatig, ac yn Brif Swyddog Gweithredol arni. Byddai un aelod-gyflogai o’r Swyddfa Archwilio newydd, a’r person hwnnw’n cael ei benodi gan yr aelodau anweithredol. Y Swyddfa Archwilio newydd fyddai’r cyflogwr a deiliad y gyllideb. Byddai amcangyfrif o gyllideb gyfan y Swyddfa yn destun gweithdrefn Cynnig Cyllidebol Blynyddol y Cynulliad a byddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, yn gosod yr amcangyfrif (gydag addasiadau neu hebddynt) gerbron y Cynulliad. Byddai’r Swyddfa Archwilio newydd hefyd yn gyfrifol am sefydlu cynllun ffioedd, a hi fyddai’n gyfrifol am gasglu’r incwm o ffioedd sy’n gysylltiedig â swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru. Byddai gofyn iddi (ar y cyd ag Archwilydd Cyffredinol Cymru) gynhyrchu cynllun blynyddol yn pennu’r rhaglen waith arfaethedig, ei chost, a’r canlyniadau a ragwelir ar gyfer pob blwyddyn ariannol sydd i ddod. Byddai gofyn hefyd iddi lunio adroddiadau interim ac adroddiad blynyddol ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, o leiaf ddwywaith y flwyddyn, yn nodi’r cynnydd a wnaethpwyd mewn perthynas â’r cynllun. Byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau i fod yn gorfforaeth undyn a byddai’n cadw’r cyfrifoldeb am ei holl swyddogaethau archwilio, astudio ac arolygu etc, a fyddai’n cael eu hariannu gan y Swyddfa Archwilio newydd ar y sail y rhoddid sylw dyledus i’r cynllun gwaith blynyddol. Byddai’r Swyddfa Archwilio yn rhyddhau adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol ar yr amod bod yr adnoddau y gofynnodd yr Archwilydd amdanynt yn rhesymol.Byddai’r Bil Drafft hefyd yn egluro, yn symleiddio ac yn cydgrynhoi, cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, y darpariaethau niferus sy’n ymwneud â swyddogaethau statudol Archwilydd Cyffredinol Cymru, er mwyn darparu corff cyson o gyfreithiau yn lle’r ddeddfwriaeth bresennol, dameidiog ei natur, a ddatblygwyd dros y blynyddoedd. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 15 Mai, ac yna bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried. Rwy’n bwriadu cyflwyno’r Bil yn y Cynulliad Cenedlaethol cyn toriad yr haf.