Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Heddiw rwy’n cyhoeddi fy mod i’n sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried cysylltiadau rhwng yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd. Bydd yn bwrw golwg dros bolisïau a chanlyniadau yn y maes hyd yn hyn, ac yn argymell sut gall Llywodraeth Cymru ac eraill ddatblygu a gweithredu strategaeth er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a datblygiad economaidd gyda’i gilydd. Rwyf wedi gofyn am adroddiad gan y grŵp erbyn mis Gorffennaf 2013.
Disgwyliaf y bydd canfyddiadau pwysig gan y Grŵp ar gyfer polisi Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd. Bydd cefnogaeth i waith y Grŵp gan fy swyddogion i a chan swyddogion o’r Uned Iaith Gymraeg, a byddaf yn rhannu argymhellion ac adroddiad y Grŵp gyda’r Gweinidog Addysg.
Bydd aelodaeth y grŵp yn cynnwys arbenigwyr ym meysydd: busnes a masnach, menter, datblygu economaidd, polisi cyhoeddus, a’r iaith Gymraeg. Rwyf wrth fy modd fod Elin Rhys, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Telesgôp, wedi cytuno i gadeirio’r Grŵp. Yn ymuno â hi bydd Martin Rhisiart, Cyfarwyddwr y Ganolfan dros Ymchwil i’r Dyfodol ac Arloesi ym Mhrifysgol Morgannwg; Dylan Jones Evans, Cyfarwyddwr Menter ac Arloesedd ym Mhrifysgol Cymru a Chadeirydd Comisiwn Economaidd Ceidwadwyr Cymru; Elin Pinnell, Partner a phennaeth Cyfraith Cyflogaeth gyda Capital law; Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion; Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Dwr Cymru a Hywel Wigley, Stiwdio Acapela.