Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Weindiogion ynghylch gwaith Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Dinas-Ranbarthau ac i’ch hysbysu am lansio’r ‘alwad am dystiolaeth’.
Rwy’n awyddus i weld beth fyddai’r manteision i economi Cymru o glustnodi a meithrin dinas-ranbarthau yng Nghymru ac a fyddent yn gallu sbarduno’r economi ar draws Cymru i dyfu yn y dyfodol. Sefydlais Grŵp Gorchwyl a Gorffen ym mis Hydref 2011 o dan gadeiryddiaeth y Dr Elizabeth Haywood, cyfarwyddwr Fforwm Economaidd y De-Ddwyrain a chyn-gyfarwyddwr CBI Cymru.
Rwyf wedi gofyn i’r Grŵp:
- ystyried y dystiolaeth dros gefnogi dinas-ranbarthau, a chlustnodi ardaloedd penodol yng Nghymru y gallai fod yn briodol eu cefnogi, a nodi eu nodweddion;
- cadarnhau’r cyfleoedd tebygol i ddatblygu’r economi ym mhob dinas-ranbarth, buddiannau hynny a’r potensial a ddaw o weithio gyda’n gilydd;
- clustnodi’r ystyriaethau strategol a phwysicaf ym mhob ardal fel rhan o ffordd gyson o gefnogi dinas-ranbarthau yng Nghymru;
- awgrymu sut y gallai dinas-ranbarth elwa ar gyfleoedd tymor byr, canolig a hir, er enghraifft arian yr UE, trydaneiddio’r rheilffyrdd a Chynlluniau Datblygu Lleol;
- disgrifio’r rhagoriaethau y byddai pob un o’r dinas-ranbarthau a ddewisir yn eu cynnig; a
- penderfynu a oes angen newid polisi a sefydliadau i fynd i’r afael yn effeithiol ag egwyddor y dinas-ranbarth, a beth fyddai’r newidiadau hynny.
Mae gwaith y Grŵp yn mynd rhagddo. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod barn a chyfraniadau cylch ehangach o bobl yn cyfrannu at ddadansoddiad a chanfyddiadau’r Grŵp. Heddiw, bydd galwad am dystiolaeth ac adroddiad ategol yn cael eu lansio ar-lein ac rwy’n annog aelodau i gyfrannu at yr ymarferiad hwn ac at godi ymwybyddiaeth amdano.
Mae’r Grŵp wedi gosod allan y dystiolaeth sydd wedi’i chasglu hyd yma i gefnogi dinas-ranbarthau, ynghyd â’r prif ystyriaethau y bydd angen mynd i’r afael â nhw er mwyn i’r syniad lwyddo yng Nghymru. Mae cyfres o gwestiynau wedi’u cynnwys hefyd i helpu ymatebwyr wrth roi tystiolaeth. Byddwn yn ystyried yr ymatebion wrth baratoi’r adroddiad terfynol a fydd yn cynnwys argymhellion Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn parhau i gasglu tystiolaeth tan ddydd Mercher, 18 Ebrill 2012 a bydd grwpiau ffocws ym mhob rhan o Gymru’n cael eu cynnal i’n helpu. Rwyf wedi gofyn i’r Dr Haywood gyhoeddi adroddiad terfynol y Grŵp yn haf 2012.