Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn hysbysu Aelodau'r Cynulliad fy mod i wedi cytuno i ryddhau'r gyllideb ar gyfer ail flwyddyn y cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid (YESS). £1.75 miliwn fydd cyllideb y cynllun eleni hefyd.

Roedd cryn ddiddordeb yn ail flwyddyn y cynllun ac roedd safon y prosiectau a gynigiwyd yn uchel iawn. Caiff llythyron cynnig eu cyhoeddi nawr, ac ar ôl cadarnhau'r cytundebau, caiff manylion llawn eu rhoi ynghylch nifer y ceisiadau llwyddiannus.

Mae'r cymorth parhaus ar gyfer y cynllun hwn yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi entrepreneuriaeth yr ifanc a newid rhwng y cenedlaethau yn y sector hwn sy'n bwysig i economi Cymru.

Hoffwn hysbysu'r Aelodau bod y Llywodraeth hon wedi sefydlu gwobr flynyddol er cof am Brynle Williams i gydnabod cyfraniad ein cyn gyd-Aelod at amaeth Cymru, fel Aelod y Cynulliad ac fel ffermwr. Caiff enillydd y wobr ei ddewis o blith ymgeiswyr llwyddiannus blwyddyn gyntaf cynllun YESS a'i gyhoeddi yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Rwy'n meddwl ei bod yn briodol iawn y bydd y wobr hon yn mynd i ffermwr ifanc gan y bydd yn adlewyrchu cymorth cadarn parhaus Brynle i ddiwydiant amaethyddol Cymru a'i gred bod ein pobl ifanc yn gallu sicrhau dyfodol ffyniannus i'r sector ffermio yn y wlad hon.