Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Grŵp Adolygu Annibynnol Glastir wedi argymell diddymu’r disgownt o 50% i drothwy pwyntiau ffermwyr organig yng Nghymru sydd am ymuno ag Elfen Cymru Gyfan Glastir ond yn lle hynny, dylai cronfa gynnal gael ei sefydlu fydd yn rhan o Glastir.  Rwyf wedi ymrwymo i roi’r argymhelliad hwn ar waith a gofalu bod gennym sector organig cynaliadwy yng Nghymru.

Mae fy swyddogion yn helpu ffermwyr organig sy’n mynychu cymorthfeydd Glastir i newid eu ceisiadau fel eu bod yn gallu ymuno â’r cynllun er gwaethaf colli’r disgownt i’r trothwy pwyntiau.  Rwyf hefyd wedi gwrando’n ofalus ar gynrychiolwyr y sector organig ac ar ôl clywed cyngor fy swyddogion, rwyf wedi penderfynu estyn y Cynllun Ffermio Organig i’r rheini sydd eisoes yn aelodau ohono i gwmpasu’r cyfnod o ddiwedd eu contractau cyfredol hyd at ddiwedd cyfnod y Cynllun Datblygu Gwledig cyfredol (31 Rhag 2013). 

Rwyf hefyd wedi penderfynu cynnal cyfnod ymgeisio arall ar gyfer y Cynllun Troi at Ffermio Organig yn ddiweddarach eleni ac yn 2012.  Bydd gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd gymeradwyo’r penderfyniadau hyn sy’n anelu at gynnal y gefnogaeth i ffermwyr organig a chreu’r amodau i gynhyrchwyr organig allu gwneud cynlluniau tymor hir ar gyfer eu busnesau.

Rwyf wedi dweud wrth fy swyddogion i aros nes eu bod yn clywed y Rheoliadau Datblygu Gwledig newydd cyn cyflwyno cynigion ar gyfer cronfa gynnal organig newydd o fewn Glastir ar gyfer cyfnod nesa’r Cynllun Datblygu Gwledig (2014-2020).  Rwy’n disgwyl y bydd manylion y trefniadau newydd ar gael imi eu trafod gyda’r sector organig tuag at ddiwedd y flwyddyn. 

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y gwyliau er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os carai’r aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan ddychwel y Cynulliad, byddwn yn fwy na pharod i wneud.