Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Datganiad hwn yn hysbysu Aelodau o’m bwriad i gyflwyno rhaglen uwch ar gyfer Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yng Nghymru, gan ganiatáu i Fusnesau Cymru gymryd rhan mewn prosiectau trosglwyddo gwybodaeth rhyngwladol.  

Mae’r rhaglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth bresennol wedi hwyluso’r broses o drosglwyddo gwybodaeth a syniadau rhwng busnesau yng Nghymru a sefydliadau addysg Uwch a Phellach.  Mae arolwg diweddar o effeithiolrwydd y cynllun wedi dangos bod prosiectau yng Nghymru yn rhoi canlyniadau eithriadol ac yn dangos gwerth am arian rhagorol.  Roedd hefyd yn nodi mai Cymru yw un o’r ardaloedd mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain o ran canran cyfran y prosiectau a’u heffeithiau.    

Fy nghynnig ar gyfer datblygu’r rhaglen fyddai adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a chaniatáu i brif gwmnïau Cymru, yn enwedig y cwmnïau angori a’u cadwyni cyflenwi cysylltiedig, i gysylltu ar lefel uchel gyda’u swyddfeydd rhyngwladol a sefydliadau academaidd dramor.  Mae Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn cefnogi’r dull hwn o weithio ac yn cadarnhau bod y datblygiad hwn yn cyd-fynd yn gyfan gwbl â’r strategaeth wyddoniaeth ac arloesi yng Nghymru.

Byddwn yn adeiladu ar ein perthynas ragorol bresennol â’r Bwrdd Strategaeth Technoleg a gosod meini prawf newydd i gefnogi prosiectau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth uwch yng Nghymru.  Bydd rhagor o adnoddau yn cael eu darparu a byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llywodraethu a chyflenwi sydd wedi’u profi gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg, fydd yn golygu y gallwn ddechrau cynnig y cynllun ar unwaith a sicrhau mai dim ond y prosiectau o’r safon uchaf sy’n derbyn cymorth.  

Bydd prosiectau y Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn para am dair mlynedd ar lefel Doethuriaeth, a bydd yn helpu i wella enw da Cymru yn rhyngwladol fel lleoliad Ymchwil a Datblygu cydweithredol o safon uchel.  Bydd y cwmnïau angori yn elwa o drosglwyddo gwybodaeth ar lefel uchel fydd yn cyflymu ymchwil gymhwysol, yn cynnwys arloesi ac yn gwella sgiliau busnes a sgiliau arbenigol graddedigion newydd.