Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, roedd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i nodi amcanion tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd o ran cyflawni’r amcanion hynny. Heddiw bydd Adroddiad Cynnydd Tlodi Plant 2022 yn cael ei roi gerbron y Senedd.
Rydym yn y gorffennol wedi adrodd ar gyflawniadau ein rhaglenni i fynd i'r afael â thlodi plant, y niferoedd sy'n cymryd rhan a'n cynnydd o ran cynlluniau ar gyfer gweddill tymor y Senedd. Fodd bynnag, mae'r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn wahanol i unrhyw flwyddyn arall rydym wedi’i gweld ers datganoli. Cafodd nifer o'n rhaglenni eu hatal dros dro yn ystod cyfyngiadau symud y pandemig COVID-19, ac eraill wedi eu datblygu i fynd i'r afael â natur frys y pandemig ac anghenion pobl ledled Cymru.
Yn yr adroddiad hwn rydym felly wedi ceisio rhoi darlun o’r ffordd y gwnaethom ailffocysu ein cyllid ac addasu ein gweithgarwch i fynd i'r afael â'r anghenion uniongyrchol a ddeilliodd o'r pandemig. Rydym wedi parhau i addasu ein rhaglenni i ymateb i'r argyfwng costau byw, sy'n cael effaith anghymesur ar deuluoedd sydd eisoes mewn sefyllfa fregus yn ariannol o ganlyniad i'r pandemig ac ar lawer o ddinasyddion sydd â nodweddion gwarchodedig.
Rydym hefyd wedi ceisio rhoi darlun o waith arall sydd ar y gweill, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi plant a lliniaru ei effeithiau yn y tymor hwy.
Mae'r adroddiad yn dangos ein bod ni yn barhaus wedi blaenoriaethu a gwneud buddsoddiadau sylweddol mewn amrywiaeth o bolisïau a rhaglenni i hyrwyddo ffyniant ac i atal a lliniaru tlodi. Er hyn, mae'n parhau i fod yn fater treiddiol ac mae ein hymdrechion gorau wedi'u rhwystro gan benderfyniadau Llywodraeth y DU – er enghraifft, penderfyniadau i dorri'r cynnydd wythnosol £20 i Gredyd Cynhwysol a oedd ar gael yn ystod y pandemig a'i pholisïau ehangach ar gymorth lles a chyllid teg.
Llywodraeth y DU sy’n parhau i fod yn gyfrifol am y prif ffyrdd o fynd i'r afael â thlodi – pwerau treth a lles.
Mae'r argyfwng costau byw sy’n gwaethygu, effeithiau hirdymor y penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, yr ergydion economaidd sy’n deillio o'r pandemig a chamreolaeth Llywodraeth y DU o’r economi, i gyd wedi cael effaith fawr ar les economaidd-gymdeithasol pobl ledled Cymru – yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed.
Mae economi y DU mewn dirwasgiad: rhagwelir y bydd cynnyrch domestig gros (GDP) yn gostwng 2%; mae disgwyl i ddiweithdra gynyddu; ac mae’n debygol y bydd incwm gwario real cartrefi yn gostwng 7% dros y ddwy flynedd nesaf - y cwymp mwyaf erioed. Yn erbyn y cefndir economaidd gwael hwn, rydym yn rhagweld y bydd lefelau tlodi hefyd yn codi.
Mae lefel y gwaith a wneir i atal tlodi a chodi pobl allan o dlodi yng Nghymru yn aruthrol. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl ac i greu dyfodol cadarnhaol i bawb. Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth y DU gydweithredu i wneud yr un peth.
Byddwn yn parhau i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, gydag ymrwymiad i drechu tlodi ac anghydraddoldeb fel ysgogiad canolog yn ystod y cyfnod anodd hwn. Byddwn hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r rhai sydd â phrofiad bywyd, i gefnogi aelwydydd sy'n agored i niwed. Bydd ein dull gweithredu yn seiliedig ar waith ymchwil a wneir gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
Rwyf wedi ymrwymo i adnewyddu ein Strategaeth Tlodi Plant fel ei bod yn adlewyrchu'r amgylchiadau heriol presennol ac yn nodi ymrwymiad o'r newydd i gefnogi'r rhai sydd angen cefnogaeth fwyaf.
Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ddechrau’r gwanwyn y flwyddyn nesaf.