Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn rhoi manylion y nawdd diweddaraf sydd wedi’i roi gan Gronfa Twf Economaidd Cymru i gwmnïau.

Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi noddi 75 o gwmnïau trwy’r Gronfa, gan fuddsoddi £23,262,551 mewn prosiectau gwerth £74,108,856.  Mae’r buddsoddiad hwn yn creu 1,101 o swyddi ac yn diogelu 1,169 o swyddi.  Mae’r tablau isod yn dangos manylion y nawdd sydd wedi’i roi yn ôl rhanbarth a sector (Gwelir atodyn isod).

Caiff datganiad arall ei gyhoeddi pan fydd pob cynnig wedi’i gadarnhau’n derfynol.