Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Cyhoeddais heddiw fy mod yn sefydlu Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru er mwyn chwyldroi’r sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru. Cronfa ecwiti fydd hon, gwerth hyd at £100 miliwn, i fuddsoddi mewn busnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Diben y Gronfa fydd helpu busnesau Gwyddorau Bywyd i gychwyn a thyfu yng Nghymru. Bydd yn gwireddu potensial masnachol y buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud mewn ymchwil a datblygu gwyddonol.
Mae gan Gymru eisoes sector Gwyddorau Bywyd addawol, sy’n dod ag o leiaf £1.3 biliwn i economi’r wlad. Gydag arian y Gronfa, bydd busnesau’n cael tyfu’n gynt ac yn fwy trwy ddatblygu, er enghraifft, technolegau a therapïau newydd ar gyfer y GIG a’u rhyddhau’n gyflym ar y farchnad. Dylai hynny leihau costau a gwella’r gofal i gleifion.
Mae’r Gronfa’n ategu strategaeth wyddoniaeth newydd Llywodraeth Cymru ‘Gwyddoniaeth i Gymru – agenda strategol ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru’. Cafodd y strategaeth ei lansio ddoe gan y Prif Weinidog gan neilltuo £50 miliwn yn ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf i brifysgolion Cymru allu cynnal gwaith ymchwil a datblygu gwyddonol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi dros £40 miliwn yn ymchwil a datblygu’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd y Gronfa felly’n sicrhau bod ffrwyth masnachol y buddsoddiad hwn mewn ymchwil a datblygu yn aros yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi £25 miliwn yn y Gronfa ar unwaith, er mwyn iddi allu buddsoddi mewn busnesau eleni.
Mae ein Panel Gwyddorau Bywyd yn disgwyl y bydd y Gronfa yn denu cyllid cyfatebol o’r sector preifat. Bydd Panel Buddsoddi arbennig a Thîm Rheoli’r Gronfa yn cael eu recriwtio cyn bo hir. Bydd aelodau’r Panel a’r Tîm yn fuddsoddwyr profiadol ym maes gwyddorau bywyd ac yn llwyddiannus ar lefel Brydeinig a rhyngwladol.