Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Ar 22 Mehefin, rhoddais ymrwymiad i roi datganiad ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad ar y cynnydd tuag at ddyfarnu contract i sicrhau bod band eang cyflym ar gael ledled Cymru.
Un o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yw cynnig band eang i bob cartref a busnes erbyn 2015 drwy’n prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru.
Mae’r prosiect hwn yn gweithio ar draws pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid rhanbarthol allweddol i nodi blaenoriaethau lleol a rhanbarthol a fydd yn dylanwadu ar gyflawni’r prosiect ac yn arwain at gynllun cyflwyno cenedlaethol.
Dechreuodd y broses gystadleuol i sicrhau darparw(y)r i gyrraedd y targed hwn ar 25 Chwefror, gyda chyhoeddi Hysbysiad Contract yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Roedd yn rhaid i’r diwydiant ymateb i’r hysbyseb i ddangos diddordeb mewn cymryd rhan yn y broses erbyn diwedd mis Mawrth 2011.
Rydym wedi cael ymateb cryf gan y diwydiant i’r hysbyseb hwn, ac ym mis Mai gwahoddwyd pedwar ymgeisydd i gymryd rhan yn y broses drafod gystadleuol. Mae’r broses yn mynd rhagddi. Rydym yn agosáu at ddiwedd y trafodaeth cychwynnol a’r nod yw gwahodd ceisiadau terfynol ym mis Hydref.
Rydym yn gobeithio dewis y dethol ymgeisydd erbyn mis Rhagfyr 2011. Cyn dyfarnu’r contract, rhaid cael cymeradwyaeth Cymorth Gwladwriaethol gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Y nod ar hyn o bryd yw dyfarnu’r contract erbyn mis Mawrth 2012.
Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £56.9m tuag at gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys y £10m a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU ym mis Chwefror. Byddwn yn penderfynu sut i ddefnyddio’r £56.9m i gefnogi cyflwyno band eang ar draws y wlad. Byddwn yn sicrhau buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat ar gyfer y prosiect hwn, yn ogystal â chael cyllid drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.