Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 16 Gorffennaf 2012 cyhoeddais y byddai Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru (y Comisiwn) yn cael ei sefydlu o dan gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Davies, Cynghorydd Strategol Prifysgol Abertawe. Diben y Comisiwn fydd rhoi argymhellion ar dyfu a datblygu’r economi gydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru er mwyn creu swyddi a chyfoeth i gefnogi nodau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru.

Mae bellach yn bosibl i mi gyhoeddi aelodau’r Comisiwn, ac rwy’n hynod o falch bod y canlynol wedi cytuno i fod yn aelodau:

  • Nicholas Bennett, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru;
  • Dr Molly Scott Cato, Athro Strategaeth a Chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Roehampton;
  • y Fonesig Pauline Green, Pennaeth y Gynghrair Gydweithredol Ryngwladol;
  • David Jenkins OBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chadeirydd Canolfan Cydweithredol Cymru;
  • Robin Murray, economegydd diwydiannol ac amgylcheddol;
  • Dr Ben Reynolds, Cyfarwyddwr Trilein.
  • Syr Paul Williams OBE C.St.J  D.L, cyn reolwr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

Rôl y Comisiwn fydd:

  • ystyried y dystiolaeth ar gyfer cefnogi’r sector cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru;
  • ystyried y cyngor busnes sydd ar gael i’r sector cydweithredol a chydfuddiannol ac awgrymu sut gellid ei wella;
  • nodi meysydd penodol y gall Llywodraeth Cymru eu targedu â chymorth ychwanegol;
  • ystyried arfer gorau a gwerthusiadau posibl;
  • amlinellu gweledigaeth ar gyfer yr economi gydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru;
  • nodi a phennu meincnodau;
  • rhoi awgrymiadau ar y cyfeiriad strategol ac argymhellion ymarferol i wireddu’r weledigaeth.

Bydd y Comisiwn yn casglu ac yn gwrando ar dystiolaeth gan unigolion a chyrff allweddol. Bydd Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr 2012. Rwy’n disgwyl derbyn adroddiad drafft y Comisiwn ym mis Medi 2013.