Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Adolygiad Mathias, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2011, ei gynnal yn sgil pryderon am oedi wrth weithredu amserlen Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar y pryd  (“y Comisiwn”) ar gyfer cynnal adolygiadau etholiadol, ei fethodoleg a gallu’r Comisiwn i gyflawni ei amcanion. Penodwyd Glyn Mathias ym mis Mawrth 2011 gan fy rhagflaenydd, Carl Sargeant AC, i gynnal yr adolygiad. Recriwtiodd Mr Mathias Max Caller a Peter Mackay, Cadeiryddion Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Lloegr a Chomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Iwerddon, i’w gynorthwyo. Mae eu hadroddiad ar-lein.

Casglodd Mathias fod y Comisiwn wedi methu â gweithredu yn unol ag amserlen afrealistig na ddylai fod cytuno i’w mabwysiadu. Casglodd ymhellach fod y Comisiwn wedi cynhyrchu cynigion annerbyniol, wedi colli hyder ei randdeiliaid ac nad oedd felly yn addas at ei ddiben.
Wedi hynny, terfynodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y pryd benodiadau’r tri Chomisiynydd a’u Hysgrifennydd. Wedyn, fe sefydlodd Comisiwn interim o dan arweiniad Max Caller a phenodi Ysgrifennydd dros dro. Chwe mis yn ddiweddarach cafodd y Comisiynwyr presennol - sef Owen Watkin (Cadeirydd), David Powell a Ceri Stradling - eu penodi ar sail hirdymor yn dilyn gweithdrefnau arferol ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Ar ôl cyfnod o Ysgrifenyddion interim, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n recriwtio Prif Weithredwr parhaol i gorff newydd o’r enw  Comisiwn Democratiaeth Leol a Ffiniau Cymru, ers i’r corff ddod i rym o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

Cafodd nifer mawr o argymhellion a chamau nesaf eu cynnig gan Mathias. Mae Llywodraeth Cymru, y Cynulliad hwn a’r Comisiwn ei hun wedi ymateb i’r rhain. Fy mwriad, wrth gyhoeddi’r datganiad hwn heddiw, yw dangos fy mod yn fodlon bod y broses o ddiwygio’r Comisiwn, ei bolisïau a’i arferion wedi dod i ben i bob pwrpas.

Cynigiodd Mathias fod angen i’r Comisiwn wella ei weithdrefnau ymgynghori yn sylweddol, gan esbonio’n glir ei fethodoleg arfaethedig. Mae’r Comisiwn wedi ymateb i hyn trwy gyflwyno gweithdrefnau ymgynghori sy’n ymgysylltu’n llawn â’r prif randdeiliaid a’r partïon sydd â diddordeb ac mae wedi cyhoeddi dogfennau sy’n esbonio eu dull o sicrhau’r nifer priodol o Gynghorwyr a hefyd raglen fanwl o’u hadolygiadau etholiadol arfaethedig.
Galwodd yr adolygiad hefyd ar Lywodraeth Cymru i archwilio strwythur a staffio’r  Comisiwn a sut y mae’n mynd ati i reoli. O ganlyniad i gydweithredu agos rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, y Comisiwn a’i staff, mae’r Comisiwn wedi dod yn gorff effeithlon a blaengar, fel y cydnabyddir mewn adroddiadau archwilio cadarnhaol. Mae wedi symud at swyddfa newydd mwy cost-effeithiol yn Hastings House, a bûm yn falch o ymweld â’r swyddfa newydd ym mis Gorffennaf. Mae’n  cynnal cyfarfodydd cydgysylltu rheolaidd, sy’n cael eu cofnodi’n llawn, â Swyddogion Llywodraeth Cymru, pwyllgor archwilio ag  aelod annibynnol a pholisïau cyfoes ar hybu amrywiaeth, caffael cynaliadwy, rheoli cofnodion a mynediad i wybodaeth, ymhlith pethau eraill.

Roedd prif ymateb Llywodraeth Cymru i Mathias, â’i wreiddiau, wrth gwrs, yn Neddf Democratiaeth Llywodraeth Leol (Cymru) 2013, y bu’r Cynulliad yn craffu arni yn llawn yn ystod ei phroses ddeddfwriaethol. Roedd Mathias wedi tynnu sylw at y cyfyngiadau ar hyblygrwydd y Comisiwn a oedd wedi cael eu gorfodi gan y fframwaith deddfwriaethol blaenorol. Moderneiddiodd y Ddeddf y rheolau sy’n llywodraethu’r broses adolygiadau etholiadol, gan ddileu’r rhwystrau a nodwyd gan Mathias a chan sefydlu proses o gylchoedd parhaus o adolygiadau etholiadol ym mhob cyfnod o ddeng mlynedd.

Yn fy marn i, mae’r Comisiwn wedi llwyddo i oresgyn y problemau anodd a oedd ganddo ddwy flynedd yn ôl ac mae bellach mewn sefyllfa dda i gyflawni ei rôl bwysig wrth helpu i sicrhau tegwch ym maes democratiaeth leol. Nid wyf, felly’n bwriadu darparu unrhyw ymatebion pellach i Adolygiad Mathias a hoffwn gofnodi fy niolch i Glyn Mathias a’i gydweithwyr am eu gwaith gwerthfawr wrth helpu’r Comisiwn i gael ei draed odano unwaith eto.