Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio fframwaith newydd i bobl anabl er mwyn helpu i waredu’r rhwystrau sy’n eu hwynebu yn eu bywydau beunyddiol.
Cafodd y fframwaith ‘Gweithredu ar anabledd: yr hawl i fyw’n annibynnol’ ei lansio’n swyddogol gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, mewn bore coffi gyda Choalisiwn Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mercher (18 Medi).
Mae’r fframwaith wedi’i greu ar sail gwaith ymgysylltu trylwyr gyda phobl anabl a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli.
Gan ganolbwyntio ar y gwaith a wneir ledled y wlad, mae’n nodi’r egwyddorion, y cyd-destun cyfreithiol, a’r ymrwymiadau a fydd yn sail i holl waith y Llywodraeth gyda, ac er budd, pobl anabl.
Prif amcanion y fframwaith yw:
- Gwella mynediad at gymorth, cyngor a gwasanaethau i bobl anabl yng Nghymru
- Hyrwyddo cyfle cyfartal
- Galluogi pobl anabl i gael mynediad yn haws at adnoddau a gwasanaethau prif ffrwd
- Ffocysu ar y prif faterion a nodwyd gan bobl anabl a nodi beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gael gwared ar y rhwystrau y maent yn eu hwynebu.
Soniodd Craig Channell, 37, aelod o Goalisiwn Pen-y-bont, am yr hyn yr oedd y fframwaith newydd yn ei olygu iddo ef:
Mae’r fframwaith yn ymwneud â’n hawliau fel pobl anabl, ac mae yno i ofalu bod pawb yn gwneud popeth y dylai fod yn ei wneud, gan sicrhau bod pawb yn cael manteisio ar addysg, tai a’r gwasanaethau sydd ar gael.
Gobeithio y bydd yn golygu bod mwy o gymorth i bobl ag anableddau. Dw i’n meddwl y bydd yn help inni ddod i wybod beth yw ein hawliau. Bydd fy ffrindiau yn gwybod pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw. Mae’n wych gwybod ein bod ni’n cael ein cynnwys yn y fframwaith fel hyn.
Dywedodd Kimberley Webber, 38, sydd hefyd yn aelod o’r Coalisiwn:
Mae llawer mwy o bobl yn cefnogi pobl anabl nag yr oeddwn i’n sylweddoli. Does dim llawer o gymorth ar hyn o bryd; ond o edrych i’r dyfodol, diolch i’r fframwaith hwn, bydd mwy o bobl yn ein helpu ni. Er ein bod ni’n anabl, mae gyda ni deimladau. Mae angen gwybod pwy y gallwch chi eu holi a siarad â nhw er mwyn cael yr atebion, a doedd hynny ddim ar gael imi o’r blaen.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:
Mae’r fframwaith hwn yn annog gweithredu cadarn, a hynny dan arweiniad y bobl yr effeithir arnynt fwyaf.
Mae’r rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl yn fwy na rhwystrau corfforol - maent hefyd yn rhwystrau a grëir gan agweddau pobl a sefydliadau.
Drwy drafodaethau dwys gydag ystod eang ac amrywiol o bobl anabl, sylweddolom yn fuan iawn y byddai gweithredu lleol yn hanfodol. Mae’r fframwaith wedi’i greu, felly, i adlewyrchu hyn ac mae’n annog gwasanaethau cyhoeddus, cyflogwyr a sefydliadau ar bob lefel i gymryd cyfrifoldeb.
Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:
Mae pobl anabl yn 26% o boblogaeth Cymru - ond eto maent yn wynebu amryw rwystrau yn ddyddiol; rhwystrau megis tlodi, diffyg mynediad i’r stryd fawr leol, a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â heriau o ran cael cymorth priodol ym maes addysg a gwahaniaethu yn y gweithle.
Drwy’r Fframwaith Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol, mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i daclo’r heriau a’r rhwystrau hyn ac arddangos arweinyddiaeth ar draws y sector gyhoeddus ac ymhlith cyflogwyr o ran herio agweddau negyddol a hen ystrydebau. I greu Cymru fwy cyfartal, mae angen i bawb allu cyrraedd eu potensial.
Ffon fesur y Fframwaith fydd i ba raddau y gall pobl anabl fanteisio ar yr un hawliau ag eraill – ac hefyd eu bod yn cael eu trin â pharch ac yn gallu cyfrannu’n helaeth at Gymru a’i chymdeithas.
Yn sail i’r holl fframwaith, mae’r ‘Model Cymdeithasol o Anabledd’, ffordd o edrych ar y byd a ddatblygwyd gan bob anabl. Mae hyn yn nodi mai rhwystrau yn ein cymdeithas sy’n peri’r anabledd, nid eu hamhariad neu eu gwahaniaeth – a thrwy nodi hynny, mae’n cydnabod bod rhwystrau penodol yn gwneud bywyd yn anoddach i bobl anabl, a hynny mewn ffordd anghymesur ac annheg.