Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwasanaethau ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn ar gyfer gwasanaethau ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Mae ein gwasanaethau treth ar-lein ar gael drwy wefan LLYW.CYMRU.
Mae'r dudalen hon yn esbonio:
- pa mor hygyrch yw'r gwasanaethau hyn
- beth i'w wneud os byddwch yn cael anhawster eu defnyddio
- sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwasanaethau hyn
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'n:
- cyfrifiannell y Dreth Trafodiadau Tir
- gwiriwr cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir
- system y Dreth Trafodiadau Tir
- system y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
Mae yna ddatganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan LLYW.CYMRU. Mae'n cynnwys gwybodaeth am hygyrchedd ein tudalennau ar LLYW.CYMRU a’n ffurflenni ar-lein. Mae ein holl gynnwys sy'n hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau yn hygyrch.
Defnyddio ein gwasanaethau
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwasanaethau ar-lein. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrîn
- llywio'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau hyn gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau hyn gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r cynnwys gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud y testun mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes arnoch angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- e-bost dweudeichdweud@acc.llyw.cymru
- ffoniwch 03000 254 000
Mae’r llinellau ffôn ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm, ac eithrio gwyliau banc.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'n gwasanaethau
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwasanaethau. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â'n tîm profiad cwsmeriaid.
E-bostiwch dweudeichdweud@acc.llyw.cymru
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni
Mae ein tîm desg gymorth wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ychwanegol i gwsmeriaid sydd angen hynny. Os oes angen help ychwanegol arnoch wrth ddefnyddio ein gwasanaethau, ffoniwch ni ar 03000 254 000.
Mae’r llinellau ffôn ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm, ac eithrio gwyliau banc.
Os ydych chi'n cael trafferth ein ffonio, defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein a byddwn yn ceisio cyfathrebu â chi drwy'r dull o'ch dewis.
Darganfyddwch sut i gysylltu â ni.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ein gwasanaethau ar-lein
Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wasanaethau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Cyfrifiannell y Dreth Trafodiadau Tir
Mae'r gyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir yn caniatáu i gwsmeriaid a'u hasiantau helpu i gyfrifo’r dreth sy'n ddyledus.
Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth hwn ar gael yn llawn:
- ar rai tudalennau, mae’r penawdau mewn trefn afresymegol ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd-yn-unig a defnyddwyr darllenwyr sgrin
- nid yw'n glir pan ddangosir hysbysiad o wall ar rai tudalennau ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin
- nid yw rhai teitlau tudalen yn ddisgrifiadol felly mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
Yn wreiddiol, gwnaethom nodi ein bwriad i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn erbyn mis Medi 2021. Rydym wedi datrys sawl mater ac wedi gwneud gwaith darganfod i gwmpasu ein penderfyniadau. Byddwn yn parhau i wella hygyrchedd ein holl wasanaethau erbyn mis Medi 2022.
Statws cydymffurfio
Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Ardal diffyg cydymffurfio |
Meini prawf heb eu bodloni |
Penderfyniad |
---|---|---|
Mae strwythur y penawdau’n afresymegol mewn rhai mannau ac yn ddryslyd i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae rhai teitlau tudalennau sydd heb fod yn ddisgrifiadol sy'n ei gwneud yn anodd llywio. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.2 (Teitl Tudalen). |

Baich anghymesur
Amherthnasol. Rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ein gwasanaethau ac mae gennym fap ffordd i fodloni safon AA WCAG 2.1 erbyn mis Medi 2022. Fodd bynnag, mae rhai newidiadau'n dal i gael eu hasesu. Byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn pan fyddwn yn gwneud yr ymchwil hon ac mae gennym ragor o wybodaeth.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Amherthnasol
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn bwriadu bodloni safon AA WCAG 2.1 ar y gwasanaeth hwn erbyn mis Medi 2022.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Medi 2020 a'i ddiweddaru ar 7 Mehefin 2021.
Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 11 Tachwedd 2019. Cynhaliwyd y prawf gan Digital Accessibility Centre.
Gwnaethom brofi sampl o’r tudalennau, gan ddefnyddio'r dull canlynol i nodi'r sampl:
Gwnaethom ystyried:
- pa mor aml y defnyddir ein gwasanaethau a blaenoriaethu’r profion yn seiliedig ar hyn, gan gynnwys y teithiau defnyddwyr mwyaf cyffredin
- sylfaen defnyddwyr ein gwasanaethau a blaenoriaethu rhannau’r gwasanaeth a ddefnyddiwyd gan amrywiaeth ehangach o ddefnyddwyr sy’n fwy tebygol o ddefnyddio technoleg gynorthwyol
- lle'r ydym wedi derbyn ceisiadau o'r blaen sy’n seiliedig ar faterion hygyrchedd neu anghenion digidol a gynorthwyir
Gwiriwr cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir
Hygyrchedd y wefan hon
Mae'r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch.
Statws cydymffurfio
Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Safon AA.
Baich anghymesur
Amherthnasol
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Amherthnasol
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Byddwn yn parhau i fonitro'r rheoliadau hygyrchedd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fodloni safon AA WCAG 2.1 yn llawn ar y gwasanaeth hwn.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 7 Mehefin 2021.
Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 28 Ionawr 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Digital Accessibility Centre.
Gwnaethom brofi sampl o’r tudalennau.
Y system Dreth Trafodiadau Tir (TTT)
Mae'r system rheoli Treth Trafodiadau Tir yn caniatáu i asiantau cofrestredig gyflwyno a gweld ffurflenni treth.
Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch:
- mae sgrin gydsynio ar y system TTT y bydd defnyddwyr bysellfwrdd-yn-unig yn ei chael hi'n anodd ei llywio. Mae'r sgrin hon yn cynnwys trosolwg o adrannau’r ffurflen dreth TTT ac yn eich galluogi i gael mynediad i wahanol rannau o'r ffurflen dreth. Bydd angen help ar ddefnyddwyr bysellfwrdd-yn-unig i lywio'r dudalen hon neu gallant gysylltu â ni er mwyn cael y ffurflen dreth mewn fformat arall. Neu fel arall, mae fersiwn PDF hygyrch o’r ffurflen TTT ar gael ar-lein.
- ar rai tudalennau, mae’r penawdau mewn trefn afresymegol ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd-yn-unig a defnyddwyr darllenwyr sgrin
- nid yw'r gymhareb cyferbynnedd lliw yn bodloni’r safon mewn rhai mannau
- nid yw'n glir pan ddangosir hysbysiad o wall ar rai tudalennau ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin
- mae rhai botymau radio yn anhygyrch i ddefnyddwyr JAWS sy’n defnyddio Internet Explorer
- nid yw rhai teitlau tudalen yn ddisgrifiadol felly mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
- mae'r tabl ar y dangosfwrdd TTT yn cynnwys celloedd data gwag a allai fod yn ddryslyd i ddarllenydd sgrin
Yn wreiddiol, gwnaethom nodi ein bwriad i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn erbyn mis Medi 2021.Isod, Rydym wedi datrys sawl mater ac wedi gwneud gwaith darganfod i gwmpasu ein penderfyniadau. Byddwn yn parhau i wella hygyrchedd ein holl wasanaethau erbyn mis Medi 2022.
Statws cydymffurfio
Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Ardal diffyg cydymffurfio |
Meini prawf heb eu bodloni |
Penderfyniad |
---|---|---|
Mae rhai elfennau ar ein ffurflenni heb eu labelu. O ganlyniad, bydd yn anodd i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin neu ZoomText bennu diben pob elfen o'r ffurflen. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid oes rhybudd y bydd y system yn eich allgofnodi ar ôl cyfnod o anweithgarwch. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.2.1 (Amseru y gellir ei addasu). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae strwythur y penawdau’n afresymegol mewn rhai mannau ac yn ddryslyd i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae rhai o'r dolenni’n anhygyrch i ddefnyddwyr bysellfwrdd-yn-unig. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae'r drefn ffocws ar rai o'n tudalennau’n afresymegol sy'n golygu bod cynnwys yn cael ei guddio i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin ar Android. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.3 (Trefn Ffocws). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae gan rai dolenni ar dudalennau ddolenni sydd heb fod yn ddisgrifiadol sy'n ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.4 (Pwrpas Dolen). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae rhai teitlau tudalennau sydd heb fod yn ddisgrifiadol sy'n ei gwneud yn anodd llywio. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.2 (Teitl Tudalen). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Ni all defnyddwyr meddalwedd JAWS ddarganfod rhai botymau radio. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.1 (Dosrannu) a 2.1.1 (Bysellfwrdd). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid yw’r cyfarwyddiadau ar un dudalen yn y fformat cywir sy'n ddryslyd i ddefnyddwyr os oes neges gwall yn digwydd. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 3.3.2 (Labeli neu Gyfarwyddiadau). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae rhai celloedd data mewn tablau’n wag a all fod yn broblem i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae’n ymddangos nad yw’r bosibl i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol ddewis rhai o'r elfennau esgynnol/disgynnol. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid yw rhai elfennau wedi'u marcio'n gywir sy'n ddryslyd i ddefnyddwyr sy'n defnyddio TalkBack ar Android. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid yw rhai negeseuon gwall yn cael eu hysbysu i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.3 (Negeseuon Statws). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mewn rhai mannau nid yw'r gymhareb cyferbynnedd lliw yn bodloni'r safon, a all effeithio ar allu rhai pobl i weld y wybodaeth. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.3 (Cyferbynnedd) ac 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw’n destun). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Baich anghymesur
Amherthnasol. Rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ein gwasanaethau ac mae gennym fap ffordd i fodloni safon AA WCAG 2.1 erbyn mis Medi 2022. Fodd bynnag, mae rhai newidiadau'n dal i gael eu hasesu. Byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn pan fyddwn yn gwneud yr ymchwil hon ac mae gennym ragor o wybodaeth.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Mae gennym un PDF (y dystysgrif TTT) ar y gwasanaeth TTT, sy'n hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaeth. Mae angen i ni wneud ymchwil pellach i hyn cyn i ni gynnwys hwn yn ein map ffordd. Byddwn yn gwneud yr ymchwil hon erbyn mis Rhagfyr 2021 a byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn gyda'n dull arfaethedig o weithredu.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni addasu dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu newid y slip talu a gynhyrchir ar ôl cyflwyno ffurflen ar-lein gan nad ydym yn ystyried hyn yn hanfodol ar gyfer y gwasanaeth.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn bwriadu bodloni safon AA WCAG 2.1 ar y gwasanaeth hwn erbyn mis Medi 2022.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Medi 2020 a'i ddiweddaru ar 7 Mehefin 2021.
Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 11 Tachwedd 2019. Cynhaliwyd y prawf gan Digital Accessibility Centre.
Gwnaethom brofi sampl o’r tudalennau, gan ddefnyddio'r dull canlynol i nodi'r sampl:
Gwnaethom ystyried:
- pa mor aml y defnyddir ein gwasanaethau a blaenoriaethu’r profion yn seiliedig ar hyn, gan gynnwys y teithiau defnyddwyr mwyaf cyffredin a ddilynnir ar ein system TTT
- sylfaen defnyddwyr ein gwasanaethau a blaenoriaethu rhannau’r gwasanaeth a ddefnyddiwyd gan amrywiaeth ehangach o ddefnyddwyr sy’n fwy tebygol o ddefnyddio technoleg gynorthwyol
- lle'r ydym wedi derbyn ceisiadau o'r blaen sy’n seiliedig ar faterion hygyrchedd neu anghenion digidol a gynorthwyir.
Y system Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT)
Mae'r system rheoli Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu i weithredwyr safleoedd tirlenwi gyflwyno a gweld ffurflenni treth.
Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch:
- ar rai tudalennau, mae’r penawdau mewn trefn afresymegol ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd-yn-unig a defnyddwyr darllenwyr sgrin
- nid yw'n glir pan ddangosir hysbysiad o wall ar rai tudalennau ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin
- nid yw rhai teitlau tudalen yn ddisgrifiadol felly mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
Yn wreiddiol, gwnaethom nodi ein bwriad i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn erbyn mis Medi 2021. Rydym wedi datrys sawl mater ac wedi gwneud gwaith darganfod i gwmpasu ein penderfyniadau. Byddwn yn parhau i wella hygyrchedd ein holl wasanaethau erbyn mis Medi 2022.
Statws cydymffurfio
Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Ardal diffyg cydymffurfio |
Meini prawf heb eu bodloni |
Penderfyniad |
---|---|---|
Mae trefn ffocws rhai tudalennau’n afresymegol a gallant ddrysu rhai defnyddwyr. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.3 (Trefn Ffocws). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid yw rhai delweddau wedi darparu testun amgen disgrifiadol priodol. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n destun). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae gan rai tudalennau elfennau gyda gwerthoedd adnabod nad ydynt yn unigryw. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.1 (Dosrannu). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid oes dolen sgipio-i-gynnwys ar gael ar gyfer defnyddwyr sy'n dibynnu ar y bysellfwrdd. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.1 (Osgoi blociau). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Defnyddiwyd tabl i gyflwyno cynllun a all fod yn ddryslyd i ddarllenwyr sgrin. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid yw botymau radio wedi'u grwpio o fewn set maes gydag allwedd. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae teitlau tudalennau'n cael eu dyblygu ar draws tudalennau ac nid ydynt yn unigryw o ran disgrifio cynnwys tudalennau. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.2 (Teitl Tudalen). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae rhai rolau wedi'u neilltuo i elfennau mewn modd annilys. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid yw tablau wedi'u fformatio'n gywir i arddangos celloedd yn y mannau priodol. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae tablau wedi'u defnyddio gyda phennyn gwag. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd) a 2.4.6 (Penawdau a Labeli). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid oes rhybudd y bydd y system yn eich allgofnodi ar ôl cyfnod o anweithgarwch. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.2.1 (Amseru y gellir ei addasu). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae penawdau wedi’u defnyddio mewn achosion lle nad ydynt yn cyflwyno cynnwys. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mae'r cynnwys yn cael ei golli neu ei guddio pan fydd y dudalen yn cael ei chwyddo. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.10 (Ail-lifo). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid yw elfennau ffurflenni wedi cael label unigryw. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6 (Penawdau a Labeli). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid yw rhai negeseuon gwall yn cael eu hysbysu i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.3 (Negeseuon Statws.) |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Mewn rhai mannau nid yw'r gymhareb cyferbynnedd lliw yn bodloni'r safon, a all effeithio ar allu rhai pobl i weld y wybodaeth. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw’n destun). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Nid yw labeli'n disgrifio diben ffurflenni’n ddigonol. |
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6 (Penawdau a Labeli). |
Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2022. |
Baich anghymesur
Amherthnasol. Rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ein gwasanaethau ac mae gennym fap ffordd i fodloni safon AA WCAG 2.1 erbyn mis Medi 2022. Fodd bynnag, mae rhai newidiadau'n dal i gael eu hasesu. Byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn pan fyddwn yn gwneud yr ymchwil hon ac mae gennym ragor o wybodaeth.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni addasu dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu newid y slip talu a gynhyrchir ar ôl cyflwyno ffurflen ar-lein gan nad ydym yn ystyried hyn yn hanfodol ar gyfer y gwasanaeth.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn bwriadu bodloni safon AA WCAG 2.1 ar y gwasanaeth hwn erbyn mis Medi 2022.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Medi 2020 a'i ddiweddaru ar 7 Mehefin 2021.
Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 28 Ebrill 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Digital Accessibility Centre.