Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb i’r ystadegau diweddaraf am perfformiad y Gwasanaeth Iechyd gan  Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: 

"Er gwaetha'r mis Rhagfyr prysuraf ar gofnod i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys, a'r mis prysuraf erioed i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, mae'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi parhau i berfformio dan bwysau eithriadol i ddarparu gofal brys a gofal wedi'i drefnu. Llwyddwyd i gyrraedd y targed ambiwlans yn gysurus ym mis Rhagfyr. Er bod rhywfaint o gwymp yng nghyfran y cleifion a gafodd eu derbyn neu eu rhyddhau o fewn pedair awr i gyrraedd yr adran ddamweiniau ac achosion brys, gwelwyd gwelliant ym mherfformiad y flwyddyn gyfan, gyda 82.5% o'r cleifion yn cael eu gweld mewn llai na phedair awr, o gymharu ag 81.2% llynedd. 

Hoffwn i ddiolch unwaith eto i holl staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol am eu hymrwymiad a'u gwaith caled i ddarparu gofal yn ystod y cyfnod hynod brysur hwn.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd a phartneriaid eraill ers y gaeaf diwethaf i gynllunio ar gyfer y gaeaf hwn, ac wedi buddsoddi £60m ychwanegol i'w helpu i ddarparu gofal brys gan sicrhau bod modd parhau â'r gofal wedi'i gynllunio ar yr un pryd. Yn ystod mis Tachwedd, sefydlogodd nifer y cleifion sy'n aros dros 36 wythnos, ac er i rywfaint o weithgarwch orfod cael ei ohirio yn anffodus, mae'n buddsoddiad wedi golygu bod llawdriniaethau a thriniaethau eraill wedi parhau drwy'r gaeaf. Rydyn ni'n disgwyl gweld amseroedd aros yn gostwng hyd at ddiwedd mis Mawrth 2018.

Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn is na'r un adeg y llynedd, ac ar gyfer 2017 yn gyfan gwelwyd y nifer isaf ers dechrau cadw cofnodion. Mae'r amseroedd aros ar gyfer therapi wedi gwella eto dros y mis, ac fe gafodd mwy o bobl driniaeth canser o fewn amseroedd targed na mewn unrhyw fis Tachwedd blaenorol. Gwelwyd dros 90% o'r cleifion canser brys o fewn yr amser targed, y perfformiad gorau ers mis Chwefror 2014, ac fe lwyddwyd i gyrraedd y targed ar gyfer cleifion canser heb fod yn achosion brys.

"Mae angen gwella perfformiad mewn nifer o feysydd o hyd, ond yn wyneb pwysau difrifol a galw uwch nag erioed, mae'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi dal ei dir ac yn parhau i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel i gleifion."