"Mae cryn dipyn o ansicrwydd o hyd o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch beth yn union sy’n cyfri fel llwyddiant."
Meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones:
“Mae cryn dipyn o ansicrwydd o hyd o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch beth yn union sy’n cyfri fel llwyddiant. Mae hynny’n ei gwneud yn anodd i’r gweinyddiaethau datganoledig ddylanwadu’n gadarnhaol ar y broses, ond rydyn ni’n benderfynol o hyd i sicrhau’r fargen orau i Gymru.
“Fe wnes i ddadlau’n gryf iawn dros fynediad llawn, dirwystr at y farchnad sengl – fy mhrif flaenoriaeth o hyd yw economi Cymru a sicrhau mwy o swyddi o ansawdd gwell. I ni, dyna’r man cychwyn ar gyfer y trafodaethau.
“Rwy’n croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ildio i alwadau’r gweinyddiaethau datganoledig am gyfarfod yn amlach, ac i ni gael rhan ystyrlon wrth ddatblygu’r rhaglen waith yn ymwneud â Brexit yn y dyfodol.”