Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dilyn cyfarfod o'r Cabinet i drafod canlyniad y refferendwm UE.
Cafodd aelodau Cabinet Cymru gyfarfod heddiw i drafod ein hymateb ar y cyd i ganlyniad y refferendwm yn gofyn a ddylai’r Deyrnas Unedig barhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Cawsom gyfle i drafod y camau gweithredu strategol ar gyfer y tymor byr, tymor canolig a thymor hir yn deillio o’r refferendwm.
Roedd y Gweinidogion yn cytuno mai buddiannau Cymru a’i phobl fyddai’n flaenaf ac yn ganolog i’n strategaeth, yn enwedig o ystyried yr helbul gwleidyddol na welwyd mo’i debyg o’r blaen a’r ansicrwydd parhaus sydd yn awr yn ein hwynebu.
Mae’r llywodraeth gyfan yn benderfynol o ddefnyddio pob dull sydd ar gael inni er mwyn sicrhau bod swyddi a chymunedau Cymru yn cael eu diogelu gymaint ag sy’n bosibl trwy’r cyfnod anodd y mae’n ymddangos sydd o’n blaenau ni. Rydyn ni’n benderfynol hefyd o weithio gyda’n gilydd i gael y fargen orau i Gymru.
Un pryder sydd angen inni fel llywodraeth fynd i’r afael ag ef yn ddiymdroi yw dyfodol y cyllid o tua hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn y mae Cymru yn ei gael ar hyn o bryd gan yr UE; cyllid sy’n cael ei ddefnyddio i gefnogi ein diwydiant ffermio ac i ddod â mwy o lewyrch i rai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig.
Yn ystod y cyfnod yn arwain at y refferendwm, gwnaeth yr ochr oedd o blaid Gadael yr UE addewidion cadarn y byddai’r arian hwn yn dal i ddod i Gymru pe byddai’r DU yn pleidleisio o blaid gadael. Heddiw, rydw i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn gofyn iddo gadarnhau bod pob ceiniog o’r cyllid hwn yn ddiogel.
Rhaid inni gael y sicrwydd hwn ynghylch y cyllid ar unwaith. Os na chawn ni sicrwydd, bydd dyfodol y cannoedd o brosiectau hanfodol sy’n cael eu hariannu gan yr UE ar hyn o bryd ym mhob cwr o Gymru yn y fantol. Rydw i am fod yn gwbl glir. Cafodd y prosiectau hyn eu cynllunio i wella bywydau pobl, yr amgylchedd a’r seilwaith maen nhw’n dibynnu arnyn nhw o ddydd i ddydd, ac rydyn ni’n hynod falch o’r hyn maen nhw eisoes wedi’i gyflawni. Ond, os na fydd yr addewid hwn yn cael ei wireddu gan Lywodraeth y DU, bydd yr effaith ar ein cyllidebau yn ddinistriol. Rhaid cofio bod ein cyllidebau eisoes o dan bwysau o ganlyniad i flynyddoedd o gyni ariannol, ac maent yn wynebu toriadau o biliynau o bunnoedd eto. O ganlyniad, bydd y penderfyniadau anodd sydd o’n blaenau yn fwy anodd eto. Felly, mae’n hanfodol inni gael ymateb cadarnhaol i fy llythyr. Cyn gynted ag y byddaf wedi derbyn yr ymateb hwnnw, byddaf yn ei gyhoeddi.
Mae yna bryderon mawr am yr effaith ar fusnes a buddsoddi yng Nghymru, ac yn dilyn fy natganiad ddydd Gwener diwethaf, penderfynodd y Cabinet roi ar waith gyfres o fesurau i fagu hyder er mwyn cynnig cymaint o sefydlogrwydd a sicrwydd â phosibl. Bydd y mesurau hyn yn cael eu cyhoeddi yn y dyddiau nesaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Yn y cyfamser, rydyn ni wedi cadw mewn cysylltiad agos â buddsoddwyr o’r UE a thu hwnt dros y penwythnos, er mwyn eu sicrhau y gallan nhw ddisgwyl ein cefnogaeth barhaus.
Rydyn ni’n dal i fod yn llywodraeth sy’n edrych tuag allan, sy’n credu mewn cydweithio â gwledydd eraill ac sydd o blaid busnes. Mae ein hymrwymiad i economi Gymreig sy’n cynnig tegwch a chyfle i bawb yn dal i fod mor gadarn ag erioed.
Pryder dybryd arall a fynegwyd o amgylch bwrdd y Cabinet oedd yr amgylchedd annifyr a gafodd ei greu gan elfennau o’r ymgyrch o blaid Gadael. Mae effaith yr amgylchedd hwnnw i’w gweld eisoes ar rai o strydoedd Cymru. Tynnodd aelodau’r Cabinet sylw at enghreifftiau o ddigwyddiadau llawn casineb wedi’u cyfeirio at bobl nad ydynt yn dod o gefndir Prydeinig yn eu hetholaethau dros y penwythnos. Mae’n ofid hefyd fod unigolion o gefndiroedd lleiafrifol ethnig sydd wedi’u geni yma yng Nghymru wedi bod yn destun yr un fath o ymddygiad. Penderfynodd y Gweinidogion gyhoeddi datganiad clir heddiw fod hiliaeth o’r fath yn gwbl annerbyniol mewn cymdeithas yng Nghymru.
Nid oes dim byd o gwbl wedi newid o ran statws gwladolion tramor sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae croeso iddynt nawr fel maent wedi cael eu croesawu erioed – cyn datganoli a chyn yr UE. Gwlad groesawgar fu Cymru erioed a rhaid inni beidio â cholli golwg ar hynny. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonon ni, sut bynnag y gwnaethon ni bleidleisio'r wythnos diwethaf, i herio unrhyw un sy’n credu bod ganddo rwydd hynt i gam-drin pobl o wahanol hil neu dras. Nid oes gan neb yr hawl i ymddwyn fel hyn ac os bydd rhywun yn dioddef y math hwn o gam-drin, fe ddylai roi gwybod i’r Heddlu ar unwaith. Rwy’n ysgrifennu heddiw at bedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru, yn gofyn iddynt fod yn effro i’r newid yn y sefyllfa, ac i gynnig cymorth priodol i unrhyw gymunedau yr effeithir arnynt.
Fel llywodraeth, rydyn ni’n cymryd camau ymarferol i ddiogelu buddiannau Cymru yn y negodiadau arfaethedig. Penderfynodd y Cabinet ffurfio tîm arbenigol o weision sifil, a hynny yn ein swyddfa bresennol ym Mrwsel, ac yn annibynnol ar Lywodraeth y DU, er mwyn ymchwilio i feysydd lle bydd modd inni fynd ati i drafod ein blaenoriaethau yn uniongyrchol â’r UE. Bydd y gwaith hwn yn digwydd ochr yn ochr â’r rhan y disgwylir inni ei chwarae yn negodiadau Llywodraeth y DU ond ni fydd yn disodli’r negodiadau hynny o gwbl.
Mae canlyniad terfynol y negodiadau arfaethedig, ac effaith unrhyw fargen ar Gymru, yn dal yn aneglur. Roedd y Gweinidogion yn unfarn ei bod yn hanfodol rhoi llais i bobl Cymru ar delerau’r fargen honno, heb fynd ati i ddadansoddi unwaith eto ganlyniad y refferendwm dydd Iau diwethaf. O gofio maint yr effaith ar bob rhan o’r wlad, roedd y Cabinet o’r farn y dylid gofyn i bob un o bedair Senedd y Deyrnas Unedig gymeradwyo’r trefniant terfynol sy’n cael ei negodi. Fel hyn bydd gan eu pobl fesur o reolaeth dros fargen a fydd yn effeithio ar fywyd a bywoliaeth pob un yn ddiwahân.
Mae dyddiau anodd o’n blaenau, ond fel llywodraeth byddwn yn benderfynol wrth weithredu ac yn dryloyw wrth gyfathrebu ar y mater hwn – y mater pwysicaf sydd wedi wynebu ein gwlad ers degawdau.
Ar ôl y canlyniad a gyhoeddwyd yn yr oriau mân, fore dydd Gwener, a’r helbul gwleidyddol a ddaeth yn ei sgil, mae llawer o bobl yn teimlo’n ddig, yn bryderus ac yn ansicr. P’un a wnaethoch bleidleisio o blaid aros neu ymadael, bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud ei gorau glas i ddiogelu buddiannau Cymru, cryfhau ein heconomi, ac uno ein gwlad.