Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ymateb i gyhoeddiad Bil Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

“Rwy’n rhoi croeso gofalus i’r cynnydd sydd wedi’i wneud tuag at sicrhau Bil a allai symud Cymru ymlaen; er bod ffordd bell iawn i fynd o hyd i ddarparu’r setliad syml, cadarn a hirdymor sydd ei angen ar Gymru.”

“Byddwn yn gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros y misoedd nesaf i gadarnhau’r manylion, gan gydnabod ein bod yn annhebygol o ddod i gytundeb ar rai materion pwysig lle mae gennym farn wahanol o hyd, fel yr angen am awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru.”

“Mae’n bwysig deall nad ydyn ni’n pwyso am newid cyfansoddiadol er ei les ei hun – rydyn ni am gael yr offer angenrheidiol i gyflawni dros bobl Cymru, a dyna’r egwyddor sy’n ein harwain o hyd.”