Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gyflwynwyd i'r Prif Weinidog ar Newidiadau i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r rheoliadau Diogelu Iechyd, sy’n gosod cyfyngiadau ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, wedi llwyddo i reoli lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2). Bu lleihad yn lledaeniad ac effeithiau’r feirws, ac mae’r rhaglen frechu’n mynd o nerth i nerth, ac felly byddai bwriad i lacio ar y cyfyngiadau’n raddol yn cael ei weld fel ymateb cymesur i’r risg cymharol i iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, mae’r penderfyniad i aros i gael dadansoddiad manylach o’r amrywiolyn B.1.617.2 o India, sy’n peri pryder, yn un doeth. Mae nifer yr achosion a’r clystyrau’n yn cael eu monitro’n agos, a bydd y data’n cael ei archwilio’n fanwl i asesu pa mor drosglwyddadwy yw’r amrywiolyn hwn; am ba hyd y mae’r unigolyn yn heintus; ac i ba raddau y mae’r feirws yn gallu osgoi amddiffyniad y system imiwnedd. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu ar natur, amseriad, a threfn y camau llacio a gymerir.   

Os bydd amgylchiadau iechyd y cyhoedd yn golygu y gallwn symud i ffwrdd oddi wrth reolaethau deddfwriaethol, wedyn byddwn yn dibynnu fwyfwy ar y sectorau i weithredu mesurau sy’n gwneud yr amgylchedd yn ddiogel o ran COVID-19, a hefyd ar y gymdeithas sifil ei hun i sicrhau ei bod yn gallu darllen sefyllfaoedd o ran lefel y risg, fel y bydd pob un ohonom yn asesu ein risgiau fel unigolion er mwyn ymddwyn mewn modd sy’n cynnal diogelwch. Parhau’n uchel y mae lefel y risg o drosglwyddo’r feirws mewn lleoliadau dan do, sydd heb eu hawyru’n ddigonol, ac sy’n llawn o bobl.

Ar hyn o bryd, oherwydd y bygythiad a ddaw o amrywiolyn problemus, a rhagolygon y modelu sy’n awgrymu ei bod yn debygol y bydd rhywfaint o gynnydd yn lefel drosglwyddo’r feirws yn nes ymlaen yn y flwyddyn, mae’n anodd meintioli’r potensial ar gyfer effeithiau niweidiol ar iechyd y boblogaeth neu adnoddau’r system iechyd. Felly, mae’n hanfodol parhau i weithredu system Profi, Olrhain, Diogelu effeithlon, a dulliau effeithiol o gadw gwyliadwriaeth ar iechyd cyhoeddus lleol, er mwyn canfod achosion a chyfyngu arnynt, gan leihau maint ac effaith unrhyw don arall o’r haint.

Dyma’r risgiau eraill sy’n peri pryder penodol imi:

  • ailddechrau teithio rhyngwladol dianghenraid sy’n golygu y bydd risg ychwanegol o ailgyflwyno heintiau yng Nghymru, gan gynnwys rhagor o amrywiolynnau newydd sydd â’r gallu i oresgyn y diogelwch a ddarperir gan ein rhaglen frechu
  • roi’r gorau i weithredu ymyriadau anfferyllol yn rhy fuan, yn enwedig yr angen i gadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliad cyhoeddus dan do sy’n llawn o bobl. Os na fydd y mesurau hyn ar waith, bydd perygl y gall cadwyni trosglwyddo hir ddigwydd yn ein cymunedau, gan arwain yn gyflym at sefyllfa lle y bydd nifer yr achosion o’r feirws yn codi unwaith yn rhagor
  • bydd unrhyw amharodrwydd i fanteisio ar y brechlyn ymysg oedolion iau, neu leihad yn lefel yr imiwnedd yn y boblogaeth sydd wedi cael ei himiwneiddio, yn lleihau lefel y diogelwch sydd wedi ei darparu gan ein rhaglen frechu lwyddiannus

Rwy’n argymell yn gryf y dylai’r risgiau hyn gael eu hystyried fel rhan o’r gwaith o reoli’r pandemig yn y tymor hir, ac y dylai ffordd ymlaen gynaliadwy gael ei gyfleu wrth y cyhoedd; gan gynnwys y mesurau y bydd angen i bawb gadw atynt er mwyn sicrhau nad yw nifer yr achosion o’r haint yn cynyddu’n gyflym eto, a hefyd, lle bo’n bosibl,  osgoi sefyllfa lle y bydd angen ailosod cyfyngiadau cymdeithasol ar fywyd cyhoeddus.

Yn olaf, wrth baratoi ar gyfer y gaeaf nesaf, dylid ystyried effeithiau posibl feirysau tymhorol eraill (yn enwedig y ffliw, y feirws syncytiol anadlol, a’r haint meningococol) y mae’r mesurau rheoli COVID-19 wedi eu cadw draw, ond sy’n debygol o gael effeithiau niweidiol ar ein poblogaeth os bydd y mesurau rheoli yn cael eu diddymu.    

Dr Frank Atherton
Y Prif Swyddog Meddygol