Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog ar y newidiadau i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan fod nifer yr achosion o COVID-19 ar gynnydd yng Nghymru, ac yng ngweddill y DU, mae’n amlwg ein bod mewn cyfnod cyn i drydedd don o’r pandemig gyrraedd ei brig.   

Mae’r cynnydd mewn achosion i’w weld yn bennaf mewn grwpiau oedran iau; ac mae hynny’n adlewyrchu’r lefel drosglwyddo ymysg y rheini sydd fwyaf annhebygol o fod wedi cael y brechlyn, ac sydd ar y cyfan yn cymdeithasu mwy ag eraill. Nid yw grwpiau oedran hŷn yn gwbl ddiogel rhag dal yr haint, ond gan fod y cyfraddau’n is, mae’n debygol ein bod yn gweld ein rhaglen frechu yn cael effaith o ran llwyddo i ddiogelu pobl. Ar hyn o bryd, mae nifer y cleifion â COVID-19 sydd yn ysbytai Cymru yn parhau’n isel, ond nid yw’n glir eto i ba raddau y mae’r brechlynnau wedi gwanhau’r ddolen rhwng trosglwyddiad yn y gymuned a salwch difrifol.

Oherwydd yr ansicrwydd hwn, rwy’n cefnogi’r cynnig y dylid oedi am gyfnod byr cyn llacio ar y cyfyngiadau ymhellach. Bydd oedi fel hyn yn rhoi cyfle i fwy o oedolion gael ail ddos o’r brechlyn, a bydd hynny’n sicrhau bod y lefel ddiogelwch ar gyfer ein poblogaeth yn sylweddol fwy. Bydd hefyd yn caniatáu inni ddeall yn well ddynameg y trosglwyddiad sy’n digwydd yn yr Alban a Lloegr, a’r niwed a achosir ganddo, gan fod y don newydd 1-2 wythnos o flaen Cymru o ran ei chynnydd presennol.

Dylid sicrhau bod negeseuon cyson yn pwysleisio’r angen i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru barhau i ymddwyn mewn modd sy’n eu diogelu yn ystod yr haf ac i mewn i’r hydref. Mae’r ymddygiadau diogelu hyn – profi a hunanynysu i’r rheini sydd â symptomau, hylendid dwylo rheolaidd, defnyddio gorchudd wyneb mewn lleoliadau dan do lle mae llawer o bobl, a chadw pellter cymdeithasol – yn parhau i chwarae rôl bwysig yn yr ymgyrch i leihau’r risg trosglwyddo.

Hefyd, rwy’n cynghori bod y camau amgylcheddol y gellir eu cymryd i leihau’r risg, megis awyru, yn rhai hynod bwysig, gan eu bod yn helpu i wneud ein lleoliadau cymdeithasol a’n gweithleoedd yn ddiogel o ran COVID-19. Rwy’n croesawu’r adolygiadau i’r Rheoliadau sy’n adlewyrchu ein dealltwriaeth wyddonol o drosglwyddiad y feirws, ac rwy’n cefnogi’r asesiad risg sydd mor angenrheidiol, a’r mesurau rhesymol sy’n cael eu rhoi ar waith.

Dr Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol