Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog ar ddychwelyd plant a pobl ifanc i ddysgu wyneb yn wyneb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r traweffaith Covid-19 ar iechyd, yr economi a chymdeithas wedi bod yn sylweddol. I nifer o blant a phobl ifanc mae traweffaith negyddol wedi bod ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd i leihau trosglwyddo. Mae'r cyfyngiadau hyn hefyd wedi cael effaith sylweddol ar addysg plant.

Roedd symud i ddysgu ar-lein ar gyfer plant ysgol (ac eithrio plant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol) yn benderfyniad anodd a wnaed gan Weinidogion er mwyn lleihau trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned gan gynnwys y risgiau sy’n gysylltiedig â theithio i'r ysgol ac yn ôl a chymysgu cymdeithasol y tu allan i amgylchedd yr ystafell ddosbarth. Mae diogelu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hanfodol yn parhau i fod yn flaenoriaeth, yn enwedig mewn ymateb i'r bygythiad cynyddol a achosir gan amrywiolion mwy heintus ac mae hyn wedi arwain at gyfyngiadau parhaus ar addysg wyneb yn wyneb a chau sectorau eraill.

Mae'r potensial i lacio'r cyfyngiadau yn parhau i fod wedi ei gyfyngu gan yr amrywiolyn newydd, sy'n fwy trosglwyddadwy. Fodd bynnag, gyda Rt yn is na 1 ar hyn o bryd, dylid neilltuo’r hyblygrwydd er mwyn i blant ysgol gynradd allu dychwelyd yn raddol er enghraifft, gan ddechrau gyda phlant yn y Cyfnod Sylfaen, sydd â risg is o haint, a phlant ysgol uwchradd, mewn carfannau bach a drwy ddefnyddio dull dysgu cyfunol.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ysgolion wedi llwyddo i ddarparu amgylchedd diogel i blant ac athrawon. Mae mesurau lliniaru effeithiol yn bwysicach nag erioed gydag amrywiolyn mwy trosglwyddadwy a dylid parhau a chryfhau'r rhain lle y bo'n bosibl. Mae'r mesurau lliniaru hyn yn cynnwys lleihau'r niferoedd sy'n cymysgu ar unrhyw un adeg ac mewn unrhyw le; cynnal grwpiau cyswllt diogel; ymbellhau cymdeithasol gofalus; hylendid dwylo a defnyddio gorchuddion wyneb fel y nodir yn y canllawiau.

Yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o ble mae'r risg o drosglwyddo fwyaf, rhaid dilyn cyfyngiadau y tu allan i'r ysgol sy'n union yr un fath â'r gofynion 'Aros Gartref' sy’n berthnasol i’r boblogaeth gyffredinol yn drylwyr. Rhaid cael dealltwriaeth glir mai dim ond yn yr ysgol y mae grwpiau cyswllt ("swigod ysgol") yn berthnasol. Dylid pwysleisio pwysigrwydd osgoi trosglwyddo rhwng athrawon, yn ogystal â rhwng staff a disgyblion. 

Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol
5 Chwefror 2021