Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymr.u ar adolygiad COVID-19: 26 Mai 2022
Mae’r don bresennol o heintiau COVID-19 sy’n cael ei harwain gan yr amrywiolyn omicron yn parhau i gilio, ac mae’r lefelau brechu uchel yng Nghymru yn cyfyngu ar y nifer o bobl sy’n dioddef niwed uniongyrchol difrifol o ganlyniad i’r heintiau parhaus.
Rwy’n cytuno ei bod hi’n amserol i ddileu gweddill y gofynion cyfreithiol ar y defnydd gorfodol o orchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal. Fodd bynnag, nodaf fod llawer o ysbytai yng ngwledydd eraill y DU yn llwyddo i hyrwyddo’r defnydd parhaus o orchuddion wyneb a chyfyngu ar niferoedd ymwelwyr mewn lleoliadau gofal iechyd ac rwy’n argymell y dylid mabwysiadu dull tebyg yng Nghymru.
Yn ogystal, rwy’n parhau i ragweld tonnau pellach o heintiau COVID-19 yn y dyfodol a dylem baratoi ein system iechyd a gofal ar gyfer ailgyflwyno amddiffyniadau anadlol llym ar gyfer staff ac ymwelwyr os bydd y sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwaethygu.
Yn ystod misoedd yr haf, rwy’n argymell ein bod yn parhau i gryfhau ein systemau gwyliadwriaeth ac yn paratoi/profi ein trefniadau ymateb ar y cyd â gwledydd eraill y DU. Dylem barhau i gynllunio ar gyfer ymgyrch brechiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref, ochr yn ochr â’r brechiad rhag y ffliw.
Syr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Cymru