Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar adolygiad COVID-19: 25 Mawrth 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae trosglwyddiad cymunedol COVID-19 yn parhau i gynyddu ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i dri pheth; cynnydd yn yr is-amrywiolyn Omicron BA.2, imiwnedd y boblogaeth yn gwanhau, a’r llacio diweddar a fu mewn ymyriadau anfferyllol. Mae cyfraddau’r derbyniadau i’r ysbyty yn cynyddu ond nid yw hyn yn arwain at bwysau difrifol ar wasanaethau gofal dwys ar hyn o bryd, na chynnydd mewn marwolaethau’n ymwneud â COVID-19. Mae’r prif risg ar hyn o bryd yn deillio o bwysau cynyddol ar wasanaethau iechyd o ganlyniad i niferoedd cynyddol o gleifion â COVID yn yr ysbyty, eu harhosiad hirach yn yr ysbyty, a nifer y staff sy’n absennol. Dylem barhau i fod yn wyliadwrus yn ein hymdrechion gwyliadwriaeth; y pethau i’w gwylio’n ofalus yw’r derbyniadau i Unedau Therapi Dwys, dyfodiad amrywiolion newydd sy’n peri pryder, pwysau iechyd/gofal cymdeithasol system gyfan ac unrhyw gynnydd mewn marwolaethau o bob achos.  

Wrth i’r don BA.2 barhau ar draws gwledydd y DU, gallwn ragweld cynnydd pellach mewn cyfraddau heintio yn y gymuned yn yr wythnosau nesaf. Nid yw’n bosibl rhagweld effaith uniongyrchol yr ymchwydd hwn. 

Mae’r ansicrwydd cyfredol yn awgrymu y dylid parhau â’n dull pwyllog a chadw rhai amddiffyniadau lefel rhybudd sero am gyfnod ychwanegol o amser. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i fonitro ac asesu’r effaith ar y darlun epidemiolegol. 

Syr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Cymru