Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar adolygiad 21 diwrnod COVID-19: 28 Hydref 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae nifer yr achosion o COVID-19 a’r cyfraddau profion positif wedi parhau i gynyddu. Mae’r cyfraddau trosglwyddo cymunedol yng Nghymru yn eithriadol o uchel hefyd, ac nid ydynt yn gostwng yn ôl y disgwyliadau modelu. Mae’n bosibl bod cofnodi canlyniadau negyddol anghywir ar gyfer profion PCR i breswylwyr yng Nghymru yn cyfrannu at y sefyllfa epidemiolegol ansicr hon, ond mae angen ymchwilio ymhellach i ffactorau eraill, gan gynnwys effaith bosibl y gallai is-linach Delta AY.4.2 fod yn fwy trosglwyddadwy. Rwyf wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Gyd-ganolfan Bioddiogelwch gynnal asesiad pellach er mwyn canfod pam mae’r gyfradd gymunedol yng Nghymru yn uwch nag yng ngwledydd eraill y DU, a pham nad yw’n gostwng fel y rhagwelwyd. 

Rwy’n nodi gyda phryder y cynnydd yn y cyfraddau achosion ymysg y grŵp dros 60 oed a’r cynnydd mewn derbyniadau i’r ysbyty. Mae’n debygol bod hyn yn adlewyrchu’r trosglwyddiad sy’n digwydd o gohortau pobl iau i gohortau pobl hŷn, ac effaith y lleihad yn lefel yr imiwnedd a ddarperir gan y brechlyn.

Mae’r GIG wedi bod o dan bwysau parhaus am gyfnod hir. Er bod y rhan a chwaraeir gan COVID-19 yn llawer llai nag yr oedd ar adegau’r tonnau blaenorol o’r feirws, mae cyfraddau’r gwelyau a ddefnyddir gan gleifion COVID-19 yn codi oddeutu 10% yr wythnos, ac felly gallwn ddisgwyl cynnydd yn y pwysau sy’n deillio’n uniongyrchol o COVID-19 cyhyd ag y mae’r cyfraddau cymunedol yn parhau’n uchel. 

Mae’n amserol ystyried cyflwyno cyfyngiadau pellach sydd â’r nod o leihau cyffredinrwydd, a diogelu’r rheini sy’n agored i niwed. Yn benodol, rwy’n cefnogi’r ymdrechion i gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu brechu (gan gynnwys cael dos atgyfnerthu) gan mai hwnnw yw’r cam mwyaf pwysig y gellir ei gymryd i liniaru effeithiau iechyd COVID-19. Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal â’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu o ran y cyfnod gorau rhwng yr ail ddos o’r brechlyn a’r dos atgyfnerthu.

Rwyf hefyd yn cefnogi unrhyw gamau a gymerir i gryfhau’r amrywiaeth o fesurau y gellir eu defnyddio i annog a chynorthwyo pobl i weithio gartref fel ffordd o leihau trosglwyddiad y feirws.

Mae ein dealltwriaeth well o gyfraddau ymosodiadau eilaidd uchel o fewn grwpiau o bobl sy’n byw ar yr un aelwyd yn codi cwestiwn ynghylch y polisi presennol o ran cysylltiadau lle nad oes angen i bobl sy’n byw ar yr un aelwyd hunanynysu. Byddai risgiau’n gysylltiedig â gwrthdroi’r polisi hwn, gan gynnwys colli presenoldeb staff hanfodol, lleihad yn hyder y cyhoedd, a thanseilio rôl ganolog y brechlyn fel mesur diogelu. Felly, rwy’n cefnogi addasu’r polisi hwn er mwyn ei gwneud yn ofynnol i bobl sydd wedi eu brechu, sy’n byw gydag eraill, a phobl ifanc 5 i 17 oed sy’n byw gydag eraill, hunanynysu os ydynt wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif, tra maent yn aros i gael canlyniad negyddol i brawf PCR. Rwyf hefyd yn cefnogi dileu’r gofyniad iddynt gael prawf PCR diwrnod 8.

Mae Lefel Rhybudd y DU yn parhau ar Lefel 3, ond mae’r tueddiad yn golygu ei fod yn symud i gyfeiriad Lefel 4 y DU. Bydd angen inni wylio’r darlun o iechyd y cyhoedd yn ofalus wrth iddo ddatblygu dros yr wythnosau nesaf, ac yn ystod y cylch adolygu 21 diwrnod nesaf mae’n bosibl y bydd angen i Weinidogion ystyried symud tuag at gyflwyno set fwy cynhwysfawr o gyfyngiadau Lefel Rhybudd 1 yng Nghymru.

Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Cymru