Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar adolygiad 21 diwrnod COVID-19: 22 Rhagfyr 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bellach mae omicron yn ymledu’n gynt nag unrhyw amrywiolyn arall y pandemig COVID-19. Serch hynny, er bod niferoedd yr achosion yn codi, mae ein system gofal iechyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau o dan bwysau y mae’n bosibl eu rheoli. Ar ben hynny, mae’n bwysig ein bod yn parhau i gadw golwg ar y don o’r amrywiolyn delta wrth i honno ddatblygu a thyfu ar draws Ewrop.

Mae ein dealltwriaeth o’r amrywiolyn omicron yn cynyddu; fel y nodwyd eisoes mae gan yr amrywiolyn hwn y fantais o fod yn fwy trosglwyddadwy, ac efallai’r gallu i osgoi effeithiau’r brechlyn i raddau. Nid yw’r cyfraddau o ran cadarnhau achos/derbyn yn yr ysbyty, cadarnhau achos/derbyn yn yr uned gofal dwys, cadarnhau achos/marwolaeth yn glir eto.

At ei gilydd, mae’r modelu sy’n dod o amrywiaeth o ffynonellau yn awgrymu bod tebygolrwydd mawr y bydd ton sylweddol iawn o heintio cymunedol yn digwydd, gan arwain at bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty, rhai ohonynt i’r unedau gofal dwys, a rhai ohonynt yn marw, ar lefelau sydd naill ai’n cyfateb i lefelau tonnau blaenorol neu sy’n fwy na nhw.

Mae hyn yn dod ar adeg pan fo capasiti’r GIG yn gyfyngedig oherwydd heintiau COVID-19, yr angen i adfer gofal wedi ei gynllunio, ac ymateb i anghenion gofal brys/heb ei drefnu sy’n cael eu gwaethygu gan bwysau sylweddol ym meysydd gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol.

Mae’r rhaglen ar gyfer rhoi dos atgyfnerthu o’r brechlyn yn fesur lliniaru gwbl hanfodol y dylid parhau i’w chyflymu.

Mae’r consensws iechyd cyhoeddus yng Nghymru a’r DU yn ehangach yn dweud ei bod yn annhebygol iawn y bydd y rhaglen atgyfnerthu ar ei phen ei hun yn gallu atal baich sylweddol iawn o niwed, sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â COVID, rhag digwydd yn y cyfnod yn syth wedi’r Nadolig.

Felly, rwy’n argymell y dylai Gweinidogion ystyried yn ddi-oed ailgyflwyno mesurau i leihau trosglwyddiad y feirws ymysg pobl sy’n cymysgu â’i gilydd. Mae’r mesurau diogelu y dylid eu hystyried yn cael eu hamlinellu yn ein senario COVID (Brys), gyda’r cynllun rheoli’r coronafeirws diwygiedig (diweddariad hydref/gaeaf 2021). Daw’r manteision mwyaf uniongyrchol a sylweddol o ganlyniad i leihau’r cyfleoedd i nifer mawr o bobl gymysgu â’i gilydd mewn mannau o dan do lle nad oes hawyru digonol. Fel gyda’r tonnau blaenorol, dylid ystyried mesurau diogelu sydd â’r nod o leihau’r cymysgu a all ddigwydd rhwng aelwydydd.

Byddai’n fuddiol sicrhau bod mesurau o’r fath yn gyson ar draws gwledydd y DU er mwyn ei gwneud yn haws cyfathrebu â’r cyhoedd a sicrhau bod pobl yn cydymffurfio. Mae’n ymddangos bod y don omicron yng Nghymru y tu ôl i’r tonnau yn yr Alban a Lloegr (Llundain yn enwedig), a dylem barhau i bwyso i gael atebion cyffredin i’r bygythiad y mae pob gwlad yn y DU yn ei wynebu.

Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Cymru