Datganiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Rwy’ am ddymuno’r gorau i bawb sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw.
Gyda'r holl newidiadau y bu’n rhaid eu gwneud eleni wrth i ni wynebu amgylchiadau eithriadol, bu’n rhaid i chi aberthu nifer o bethau.
Mae wedi bod yn flwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen, ac fe fydd heddiw yn teimlo braidd yn wahanol.
Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchiad o’ch gwaith caled, eich cyrhaeddiad blaenorol mewn arholiadau ac asesiadau ysgol, ac yn eich gwobrwyo am hynny, felly dylech ymfalchïo yn eich llwyddiant.
Gobeithio y byddwch chi’n cael y graddau roeddech chi’n gobeithio amdanyn nhw, ac y gallwch barhau gyda’ch taith yn yr hydref, boed hynny’n golygu mynd i’r coleg, dechrau ar brentisiaeth neu aros yn yr ysgol.
Er y bydd nifer ohonoch chi’n fodlon â’ch canlyniadau ac yn llawn cyffro am y camau nesaf, os nad ydych chi wedi cael y canlyniadau roeddech chi’n gobeithio amdanyn nhw, mae digonedd o opsiynau a chyngor ar Cymru’n Gweithio.
Pob lwc, a dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol.