Neidio i'r prif gynnwy

Dirprwy Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar adolygiad 21 diwrnod COVID-19: 18 Tachwedd 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n arbennig o anodd rhagweld hynt y pandemig wrth inni gyrraedd misoedd y gaeaf; mae’r rhaglen pigiadau atgyfnerthu’n cystadlu â’r ffaith bod effaith y brechlynnau’n gwanhau dros amser, a throsglwyddadwyedd uwch yr amrywiolyn delta. Er bod achosion COVID-19 wedi syrthio ar draws Cymru a chyfraddau positifedd o dan 20%, maent yn parhau i fod yn gymharol uchel ac rwy’n bryderus y gallai cynnydd posibl mewn feirysau anadlol, gan gynnwys y ffliw ac RSV, achosi salwch i lawer a rhoi pwysau o’r newydd ar y GIG.

Er mwyn aros ar lefel rhybudd 0, a chynnal ymdrechion i gyfyngu ar drosglwyddiad y feirws, mae’n parhau i fod yn bwysig i ni gefnogi pobl i hunanynysu fel mesur ataliol allweddol a phwysleisio’r rhagofalon amgylcheddol ac ymddygiadol y gall unigolion a sefydliadau eu cymryd i atal trosglwyddiad. Nodaf fod llai o bobl yn adrodd eu bod yn defnyddio ymddygiadau diogelu rhag COVID-19; gwisgo gorchudd wyneb, osgoi dod i gysylltiad a chadw pellter cymdeithasol. Mae angen parhau i gyfathrebu’n glir i bwysleisio manteision cadw at y pethau hyn oherwydd po fwyaf y bydd pobl yn gweithio gartref, yn defnyddio gorchuddion wyneb mewn mannau prysur dan do, ac yn gwella awyru, y mwyaf fydd y cyfraniad i leihau trosglwyddiad gan arwain at lai o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty.

Mae annog pawb sy’n gymwys i fanteisio ar y brechlyn COVID-19 a’r rhaglen pigiadau atgyfnerthu yn flaenoriaeth, yn enwedig y rhai hynny sy’n debygol o fod â llai o imiwnedd (e.e. pobl agored i niwed a’r rheini a gafodd eu brechu yn gyntaf). Dylid parhau i sicrhau bod niferoedd uchel o bobl cymwys yn manteisio ar y brechlyn ffliw, gan gynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Dr Chris Jones 
Y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol