Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod cynnig cyflog gwell wedi'i wneud i undebau llafur iechyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
Ar ôl i drafodaethau barhau yn ystod yr wythnos diwethaf, rydym yn falch o gyhoeddi bod cynnig cyflog gwell wedi’i gyflwyno i’n hundebau llafur iechyd. Yn sgil hyn, rydym yn obeithiol y bydd y gweithredu diwydiannol a oedd wedi’i gynllunio ar gyfer dydd Llun 6ed a dydd Mawrth 7fed Chwefror yn cael ei ohirio, gan alluogi undebau llafur i drafod y cynigion ymhellach â’u haelodau. Bydd undebau llafur unigol yn cadarnhau eu cynlluniau ynglŷn â’r gweithredu diwydiannol a oedd wedi’i gynllunio ar gyfer yr wythnos nesaf, cyn trafodaethau pellach â’u haelodau.
Mae’r cynnig cyflog diwygiedig hwn yn cynnwys 3% ychwanegol, 1.5% ohono’n gyfunedig ac felly bydd yn rhan o becynnau cyflog yn flynyddol, ar ben argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau, sydd eisoes wedi’u gweithredu’n llawn. Bydd y cynnig hwn yn cael ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2022. Mae nifer o ymrwymiadau nad ydynt yn ymwneud â chyflog wedi’u cynnwys yn y pecyn diwygiedig hwn i gefnogi lles staff. Bydd trafodaethau am y rhain yn parhau yr wythnos nesaf.
Er nad oes cynnig cyflog gwell wedi’i gyflwyno i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr ar hyn o bryd, cytunwyd hefyd y byddai unrhyw gyllid canlyniadol o dan fformiwla Barnett yn dilyn unrhyw gynnig gwell i staff yn Lloegr yn arwain at gynnig cyflog pellach i staff yng Nghymru.
Hoffem ddiolch i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau am eu hagwedd gadarnhaol a’u hewyllys da. Rydym yn disgwyl ymateb ffurfiol gan bob un o’r undebau llafur unigol.