Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

“Rwy’n cydymdeimlo’n fawr â phawb sydd wedi dioddef oherwydd y llifogydd y penwythnos hwn, yn enwedig teulu’r gŵr ifanc a gollodd ei fywyd yn y tirlithriad. 

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol, y cwmnïau dŵr a Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi gweithio’n galed dros y penwythnos yn gyfan i helpu’r rheini yr effeithiodd y llifogydd arnyn nhw, gan gau heolydd a chael pobl o’u tai, ac sydd nawr yn gweithio gyda chymunedau i gael pethau yn ôl i drefn. 

“Dros dymor y Llywodraeth hon, byddwn yn neilltuo dros £350 miliwn i awdurdodau lleol ledled Cymru ac i Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau perygl llifogydd ac erydiad arfordirol. 

“Nid ydym yn gwybod eto beth fydd pen draw effeithiau’r llifogydd hyn ond rydyn ni’n clywed hefyd sut mae ein buddsoddiadau diweddar wedi rhwystro neu leihau effeithiau’r llifogydd.  Byddaf yn gwneud datganiad i’r Cynulliad fory am y sefyllfa ddiweddaraf ledled y wlad. 

“Ar ôl unrhyw lifogydd mawr, mae gofyn i awdurdodau ymchwilio i’r achos a’r effeithiau, a chyhoeddi adroddiad. Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gydag Awdurdodau Rheoli Risg eraill gan gynnwys CNC a Dŵr Cymru/Welsh Water i ddeall effeithiau llawn y llifogydd a’r gwersi sydd yna i’w dysgu.”