Ar ôl cael ei enwebu yn Brif Weinidog Cymru, mae Carwyn Jones wedi rhestru ei flaenoriaethau ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth newydd.
Hoffwn i ddiolch i’m cydweithwyr am eu cefnogaeth, a dechrau drwy eich llongyfarch chi, Lywydd, ar gael eich ethol i’ch swydd newydd. Fe gawsoch chi fedydd tân, ac rydych chi eisoes wedi dangos eich bod yn gallu ymgymryd â dyletswyddau eich swydd newydd yn y modd pwyllog angenrheidiol. Llongyfarchiadau hefyd i chi, Ann Jones. Bydd hi’n golled i ni na fyddwch chi mwyach yn gweithredu fel Cadeirydd y Grŵp Llafur, ond bydd yr hyn sy’n golled i Lafur Cymru yn gaffaeliad i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Hoffwn roi gair o ganmoliaeth hefyd i’r ymgeiswyr eraill, Dafydd Elis Thomas a John Griffiths, unigolion sy’n trysori’r sefydliad hwn ac a fydd bob amser yn rhoi buddiannau’r Cynulliad Cenedlaethol yn flaenaf. Diolch yn fawr ichi.
Mae fy nheulu i, fel teuluoedd pob un ohonon ni, wedi gorfod dygymod ag amrywiol heriau dros yr wythnosau diwethaf, a hoffwn i ddiolch i Lisa, Seren a Ruairi am eu hamynedd a’u cefnogaeth. Rydw i am dalu teyrnged i’n teuluoedd i gyd – i’r unigolion na welodd fawr ar eu partneriaid yn ystod y cyfnod yn arwain at yr etholiad. Chi sy’n caniatáu i ni wneud yr hyn rydyn ni’n ei garu, ac ymgyrchu ar gyfer etholiadau yn y gobaith y gallwn ni newid Cymru er gwell.
Am y pumed tro yn olynol, mae pobl Cymru wedi gofyn i Lafur Cymru ffurfio’r Llywodraeth nesaf. Ac am y pumed tro yn olynol, maen nhw wedi dweud wrthym am fwrw ymlaen – ond i fod yn bwyllog ac yn wylaidd wrth wneud hynny. Does gennym ni ddim mwyafrif – a dydyn ni ddim yn bwriadu anghofio hynny. Rydw i wedi bod yn gwbl glir ers yr etholiad ein bod ni’n llwyr werthfawrogi’r cyfrifoldeb sydd arnon ni, ac arnaf i yn arbennig, i weithio gydag eraill, lle bo hynny’n bosibl, er budd Cymru. Gall syniadau da ddod o gyfeiriad unrhyw blaid ac rydw i am i’r Cynulliad hwn fod yn fwy agored a hyderus na’r un diwethaf.
Yn yr ysbryd hwn, rwy’n amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth Cymru nesaf – blaenoriaethau a fydd yn adlewyrchu’r meysydd lle rwy’n credu y gall y Cynulliad hwn ganfod rhywfaint o dir cyffredin ar unwaith. Mae’r blaenoriaethau hyn hefyd yn adlewyrchu’n glir ganlyniad llwyddiannus Llafur Cymru yn etholiad mis Mai, a’r trafodaethau dilynol â’r brif wrthblaid, Plaid Cymru.
Bydd ffocws diflino ar sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i’n diwydiant dur.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau’n gadarn o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a bydd yn ymgyrchu’n daer dros hyn.
Ni fyddwn yn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, gan roi amser i’r grwpiau gwleidyddol yn y Cynulliad helpu i sefydlu ffordd newydd o ddeddfu yng Nghymru. Bydd hyn yn caniatáu i bob plaid fynd ati gyda’i gilydd i ddatblygu gweithdrefn graffu a phwyllgorau sy’n fwy addas i gyfrifoldebau Seneddol y sefydliad hwn.
Pan fydd y Cynulliad mewn sefyllfa i graffu’n well ar ddeddfwriaeth, byddwn yn ceisio cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd newydd a Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol. Byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth, ar sail drawsbleidiol, a fydd yn dileu’r hawl i ddefnyddio “cosb resymol” fel amddiffyniad. Byddwn hefyd yn ceisio diwygio mesur y Gymraeg.
Byddwn yn ceisio datrys yr anghytundeb ynghylch Bil Cymru er mwyn sefydlu fframwaith deddfwriaethol parhaol i Gymru.
Byddwn yn ceisio sefydlu Adolygiad Seneddol i ddyfodol hirdymor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.
Er mwyn datblygu polisïau a chyflawni o galon y Llywodraeth, byddwn yn sefydlu Swyddfa’r Cabinet newydd. Blaenoriaeth gyntaf y swyddfa newydd fydd sefydlu cynlluniau cyflawni ar gyfer chwe phrif adduned maniffesto Llafur Cymru.
Mae ffigurau’r Cynulliad hwn i’w gweld yn glir. Er mwyn i ni gyflawni ar ran pobl Cymru, rhaid i ni geisio cydweithio lle bynnag y mae’n bosibl. Felly mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi llunio Compact i Symud Cymru Ymlaen.
Gyda’ch caniatâd, Lywydd, ac er mwyn sicrhau tryloywder, rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi’n union beth mae hyn yn ei olygu.
Sylfaen y cytundeb hwn yw sefydlu tri Phwyllgor Cyswllt ar Gyllid, Deddfwriaeth a’r Cyfansoddiad. Bydd y rhain yn cynnwys Gweinidog Llafur a chynrychiolydd Plaid Cymru, ac yn cael eu staffio gan y gwasanaeth sifil.
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’n gilydd ar ymgyrch refferendwm Ewrop mewn ysbryd o gydweithrediad.
Rydyn ni’n cydnabod bod nifer o feysydd lle na fyddwn yn cytuno â’n gilydd o reidrwydd, ond byddwn hefyd yn agor trafodaethau ar flaenoriaethau polisi lle mae tir cyffredin rhyngom. Tir cyffredin sy’n ymestyn, mewn gwirionedd, y tu hwnt i’n dwy blaid ni yn unig. Bydd y rhain yn cynnwys:
Gofal plant – rydyn ni’n cydnabod mai dyma un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu teuluoedd yng Nghymru, ac fe fyddwn yn rhoi blaenoriaeth i waith er mwyn sicrhau 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio. Elfen allweddol o’n gwaith yn datblygu a chyflwyno’r cynnig hwn fydd ansawdd y ddarpariaeth a thegwch y mynediad ato – o ran cyrhaeddiad daearyddol ac o ran iaith.
Prentisiaethau a sgiliau – mae gweithlu medrus yn hanfodol i gynnal ein heconomi, ac fe fyddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad i gyflwyno o leiaf 100,000 prentisiaeth newydd i bobl o bob oed yn ystod y tymor hwn.
Seilwaith a chyllid busnes – byddwn yn sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd, a banc datblygu newydd i Gymru.
Iechyd – byddwn yn rhoi blaenoriaeth i sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd, ac yn ymrwymo i roi diwedd ar y loteri cod post ar gyfer cyffuriau a thriniaethau newydd. Byddwn yn sefydlu cynlluniau ar gyfer recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd sylfaenol.
Bydd y trafodaethau ar flaenoriaethau polisi eraill rydym yn eu rhannu yn parhau pan fydd Gweinidogion wedi’u penodi.
Does dim prinder uchelgais yng Nghymru. Does dim prinder gallu yng Nghymru. Ac o edrych ar y diwrnodau diwethaf, does dim prinder cynnwrf yng Nghymru chwaith. Ein gwaith ni, gyda’n gilydd, yw gwireddu’r uchelgais hwnnw. Ac i droi’r gallu yn llwyddiant cynaliadwy a llewyrch i bawb. O ran y cynnwrf, gadewch i ni sicrhau ei fod yn arwain at ganlyniadau.
Rydyn ni wedi rhoi digonedd o ddrama a chyffro i’r cyfryngau, yr haneswyr a’r sylwebyddion, sy’n fêl ar eu bysedd.
Mae’n bryd i ni nawr weld pobl Cymru’n cael yr hyn y maen nhw’n gofyn amdano, ac yn ei ddisgwyl. Llywodraethu da, llwyddiant a pharch.