Datganiad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru am yr angen i symud i Rybudd Lefel 4 o hanner nos ar 19 Rhagfyr a newid y trefniadau i lacio’r cyfyngiadau dros y Nadolig fel bod 2 aelwyd bellach ddim ond yn cael cwrdd ar Ddydd Nadolig.
Rwyf wedi adolygu’r cynigion ar gyfyngiadau yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2 ) (Cymru) 2020. Rwyf wedi cytuno bod angen i Gymru gryfhau’r cyfyngiadau cyfredol ac rwy’n cefnogi symud i Rybudd Lefel 4 o hanner nos ar 19 Rhagfyr. Rwyf hefyd wedi cytuno i newid y trefniadau i lacio cyfyngiadau dros y Nadolig fel nad oes modd i 2 aelwyd gwrdd bellach ac eithrio ar Ddydd Nadolig.
Rwy’n cydnabod bod hwn yn rhywbeth anodd iawn i ofyn i bobl Cymru ei wneud. Ond mae amrywiolyn newydd o’r SARS-Cov-2 wedi ei nodi ledled y DU. Er bod nifer o amrywiolion wedi bod ar y SARS-Cov-2, mae tystiolaeth yn prysur ymddangos bod yr amrywiolyn feiral N501Y yn gynyddol bwysig yn y pandemig a’i fod yn sylweddol fwy trosglwyddadwy na’r feirws teip gwyllt. Yn ôl y dadansoddiadau, mae’r amrywiolyn newydd hwn yn ymledu ar draws y DU a bu cryn gynnydd yn nifer y derbyniadau i ysbytai yn yr ardaloedd lle mae lefel uchel o’r amrywiolyn dros yr wythnosau diwethaf, er gwaethaf y cyfyngiadau lefel 3 yn y gymuned.
Er mai bach yw maint y sampl, mae astudiaeth gan Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi dangos bod cyfran sylweddol o’r heintiadau COVID-19 yng Nghymru yn deillio o’r amrywiolyn newydd. Mae’n annhebygol o fod yn is nag 11% o heintiadau newydd a gallai fod mor uchel â 60%. Gallai rhai ardaloedd fod â lefelau uwch na’i gilydd ond mae’r data cyfyngedig sydd gennym yn awgrymu bod yr amrywiolyn yn bresennol mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys y Gogledd.
Ar hyn o bryd, y gyfradd digwyddedd achosion yng Nghymru o 8 i 14 Rhagfyr yw 587.2 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth (o gymharu â 525.3 ddeuddydd yn unig yn ôl). Mae hyn wedi cynyddu o 231.6 ym mhob 100,000 am y cyfnod 23 – 29 Tachwedd. Ochr yn ochr â hyn, mae’r gyfradd profion positif dros yr un cyfnod wedi cynyddu i 22.3% ar gyfer Cymru gyfan. Mae’r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf yn awgrymu bod yr amrywiolyn newydd yn cyfrannu o leiaf, neu o bosibl yn gyrru, y twf hwn yn y cyfraddau. O ystyried y risg y bydd y twf uchel yn parhau, ac i gyfyngu ar niwed y pandemig ac atal adnoddau’r GIG, sydd eisoes dan straen, rhag cael eu trechu’n llwyr, rhaid cyflwyno’r mesurau Lefel 4 cyn gynted ag y bo modd.
Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol