Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr. Frank Atherton ar y Coronafeirws (COVID-19).

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r sefyllfa o ran y Coronafeirws yn parhau i esblygu ac adroddwyd am nifer o achosion mewn mwy nag 20 o wledydd ar draws y byd. Er mai cymedrol yw’r risg i’r cyhoedd o hyd, rydym yn parhau i gynllunio gwasanaethau wedi’u targedu, a’u rhoi ar waith, er mwyn inni allu ymateb yn gyflym ac mewn modd cymesur.

Ar ôl wythnosau o baratoi, dechreuodd ein labordy feiroleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru brofi am COVID-19 ar 7 Chwefror. Cyn hyn, Public Health England oedd yn cynnal y profion. Hoffwn ddiolch i swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru am eu harbenigedd a’u hymroddiad i ddarparu’r gwasanaeth profi pwysig hwn. Rwyf am ddiolch iddynt hefyd am ddatblygu ymateb y GIG yn ehangach, ac am eu cymorth i ddarparu’r ymateb hwnnw. Mae mwy na 100 o bobl wedi cael eu profi yng Nghymru hyd yma ac nid oes unrhyw achosion wedi’u cadarnhau yma hyd yn hyn.

Ysgrifennais at swyddogion yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ddechrau’r wythnos hon i roi gwybod iddynt am bwysigrwydd cynnal asesiadau a rhoi gwasanaethau profi ar waith ar unwaith yn y gymuned. Dywedais hefyd ei bod yn hollbwysig bod Unedau Profi Coronafeirws yn cael eu cadw ar wahân i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Drwy gynnal asesiadau a gwasanaethau profi yn y gymuned, gall unigolion sydd â symptomau ysgafn aros gartref a sicrhau nad ydynt yn dod i gysylltiad ag unrhyw un arall. Bydd gweithwyr clinigol proffesiynol yn ymweld â nhw yn eu cartrefi er mwyn asesu eu hiechyd a chynnal y profion angenrheidiol.

Bydd yr Unedau Profi Coronafeirws yn sicrhau bod unigolion sy’n mynd i’n hysbytai acíwt oherwydd bod risg eu bod wedi dod i gysylltiad â’r Coronafeirws yn gallu cael eu hasesu’n brydlon mewn ardal ar wahân i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Mae’r ddau fesur o fudd i’r unigolion ond maent hefyd yn sicrhau na fydd unrhyw effaith ar y gwasanaethau a ddarperir gan y GIG o ddydd i ddydd.

Yr un yw’r cyngor ar gyfer teithwyr. Dylai pob teithiwr sy’n datblygu symptomau tebyg i’r ffliw, waeth pa mor ysgafn ydynt (er enghraifft twymyn, peswch neu drafferth anadlu) o fewn 14 diwrnod i ddychwelyd o dir mawr Tsieina, Gwlad Thai, Japan, Gweriniaeth Korea, Hong Kong, Taiwan, Singapôr, Malaysia neu Macau, aros gartref ac ynysu ei hunan. Dylent ffonio Galw Iechyd Cymru neu GIG 111 os yw ar gael yn eu hardal. Mae’n bwysig nodi y dylai teithwyr o Wuhan a thalaith Hubei aros gartref ac ynysu eu hunain am 14 diwrnod, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau. Mae hynny oherwydd bod risg uwch yn deillio o’r ardal honno. 

Gall y cyhoedd helpu i leihau’r siawns o ledaenu unrhyw feirws anadlol. Y cyngor yw ei ddal, ei roi yn y bin, ei ladd a golchi’ch dwylo.

Byddaf yn parhau i gydlynu camau gweithredu gyda Phrif Swyddogion Meddygol eraill y DU er mwyn ymateb i’r sefyllfa sy’n datblygu. Byddaf yn rhoi gwybod am y datblygiadau yn rheolaidd.  

Gwybodaeth am deithio

Gwybodaeth am deithio i Tsieina ar GOV.UK.

Rhagor o wybodaeth am y coronafeirws

Sut mae’r coronafeirws yn cael ei drosglwyddo a  ffeithiau eraill am coronafeirws 2019 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Sut mae’r ymateb i’r coronafeirws yn cael ei reoli ar draws y DU ar GOV.UK.