Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr. Frank Atherton, ar y Coronafeirws (2019-nCoV)

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r sefyllfa o ran y coronafeirws, a gychwynnodd yn Wuhan yn nhalaith Hubei, Tsieina, yn esblygu. Ar sail cyngor gan arbenigwyr, mae Prif Swyddogion Meddygol y DU yn argymell yn awr y dylai pob teithiwr sy’n datblygu symptomau tebyg i’r ffliw, waeth pa mor ysgafn ydynt (er enghraifft twymyn, peswch neu drafferth anadlu) o fewn 14 diwrnod i ddychwelyd o dir mawr Tsieina, Gwlad Thai, Japan, Gweriniaeth Korea, Hong Kong, Taiwan, Singapôr, Malaysia neu Macau, aros gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill. Dylent ffonio Galw Iechyd Cymru neu GIG 111 os yw ar gael yn yr ardal. 

Mae’n bwysig nodi y dylai teithwyr o Wuhan a thalaith Hubei aros gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill am 14 diwrnod, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau. Mae hynny oherwydd bod risg uwch yn deillio o’r ardal honno. 

Gall y cyhoedd helpu i leihau’r siawns o ledaenu unrhyw feirws anadlol. Y cyngor yw ei ddal, ei roi yn y bin, ei ladd a golchi’ch dwylo. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi ymgyrch Llywodraeth y DU i godi ymwybyddiaeth o hylendid anadlol, a lansiwyd ar 1 Chwefror.

Nid oes unrhyw achosion yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru drefniadau cadarn ar waith i reoli achosion ac i warchod y cyhoedd. 

Mae holl Brif Swyddogion Meddygol y DU yn parhau i gydlynu’r camau gweithredu er mwyn ymateb i’r sefyllfa sy’n datblygu. Cymedrol yw lefel y risg yn y DU o hyd. Rydym yn asesu’r risg yn barhaus a byddaf yn rhoi diweddariad rheolaidd ichi am y datblygiadau.

Gwybodaeth am deithio

Gwybodaeth am deithio i Tsieina ar GOV.UK.

Rhagor o wybodaeth am y coronafeirws

Sut mae’r coronafeirws yn cael ei drosglwyddo a ffeithiau eraill amdano ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Sut mae’r ymateb i’r coronafeirws yn cael ei reoli ar draws y DU ar GOV.UK.