Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi croesawu’r cyhoeddiad am adolygiad cyflym iawn o gyfarwyddyd offer gwarchodol personol (OGP) yn y DU ac wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yng Nghymru.
Dywedodd Dr Atherton:
“Rydyn ni wedi rhoi mwy na 3.4m o eitemau o OGP i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yng Nghymru o’n cronfeydd wrth gefn ar gyfer pandemig o’r ffliw. Mae hyn yn ychwanegol at y cyflenwadau arferol sydd ar gael.
“Mae cyfarwyddyd presennol y DU yn glir y dylai OGP gael ei ddefnyddio wrth ddelio gyda phobl sydd â COVID-19 neu os oes amheuaeth bod ganddynt y feirws. Mae’r canllawiau cyfredol am yr OGP sydd ei angen yn wahanol yn ôl lleoliad a gweithdrefn. Mae’n hanfodol bod y rhai sydd angen OGP yn ei gael ond ni ddylem ei ddefnyddio’n ddiangen, er mwyn osgoi gwastraff ac i sicrhau bod gennym ni ddigon o stoc wrth i’r pandemig coronafeirws ddatblygu.
“Ar gyfer llawer o weithwyr allweddol, gan gynnwys staff mewn unrhyw leoliad - y rhai nad ydynt yn delio’n uniongyrchol â phobl gydag achosion dan amheuaeth neu wedi’u cadarnhau o COVID-19 – bydd arfer da safonol, sy’n cynnwys golchi dwylo yn drwyadl a chadw pellter yn gymdeithasol yn gwarchod pobl rhag lledaenu’r feirws.
“Yng ngoleuni’r sefyllfa bresennol ac yn dilyn trafodaeth gyda fy nghydweithwyr yn y DU, rydyn ni’n credu y dylid adolygu a symleiddio’r cyfarwyddyd presennol cymaint â phosib. Mae adolygiad cyflym o’r cyfarwyddyd wedi cael ei gyhoeddi, a fydd hefyd yn edrych ar unrhyw broblemau cyflenwi a’r defnydd mwyaf effeithlon o stoc presennol.
“Iechyd a lles ein staff iechyd a gofal cymdeithasol yw ein prif bryder ni. Mae’n hanfodol eu bod yn cael eu gwarchod ac yn teimlo’n hyderus wrth weithio.”