Datganiad Cydbwyllgor y Trysorlysoedd: 28 Medi 2016
Cyfarfu Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru) i ddechrau trafodaethau ynghylch y trefniadau cyllid a fydd yn cael eu rhoi ar waith pan fydd pwerau trethi newydd yn cael eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Bydd treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli yn 2018 ac mae Deddf Cymru 2014 hefyd yn galluogi i dreth incwm gael ei datganoli’n rhannol.
Roedd y Gwir Anrh David Gauke AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yno yn cynrychioli Llywodraeth y DU a Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cynrychioli Llywodraeth Cymru.
Trafododd y Gweinidogion y trefniadau ymarferol ar gyfer cynnal y trafodaethau a chytuno arnynt, gan dynnu sylw at bwysigrwydd rhannu gwybodaeth a chanlyniadau gwaith dadansoddi rhwng y llywodraethau. Nodwyd yr amrywiaeth eang o ddadansoddi a rannwyd eisoes ac roeddent yn awyddus o weld y cydweithio hyn yn parhau.
Cytunwyd y bydd yn bwysig rhoi'r diweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth y DU am hynt y trafodaethau.
Ystyriodd y Gweinidogion y dull a fyddai'n cael ei fabwysiadu mewn perthynas â tri maes allweddol o dan ystyriaeth. O ran cyllid y grant bloc, cytunwyd ar set o opsiynau y dylid ymchwilio iddynt a sut y byddai'r rhain yn cael eu hasesu i ddechrau. O ran benthyg cyfalaf, trafodwyd y sail resymegol dros y trefniadau presennol fel y darparwyd ar eu cyfer yn Neddf Cymru 2014 a chytunwyd y dylid ystyried yr achos dros newid. Yn olaf, o ran rheoli cyllidebau, trafododd y Gweinidogion y trefniadau presennol a chytunwyd y dylid ystyried a oedd y rhain yn dal i fod yn addas.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Hydref.
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU Medi 2016